Return to the Language Selection Screen
COMING SOON...


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec 

Cyfranogi sy’n Bwysig.

Amgylchedd cefnogol, anfygythiol, lle gall bobl ifanc brofi cystadleuaeth gerddorol am y tro cyntaf a’i fwynhau. 

Nod Cerddorion Ifanc Dyfed yw meithrin dawn gerddorol ifanc yn Ne Orllewin Cymru.   

Bob blwyddyn, ym mis Tachwedd fel arfer, mae pobl ifanc o dan 19 oed yn cael eu gwahodd i chwarae rhaglen 15 munud o gerddoriaeth amrywiol ar offeryn o’u dewis.  Does yna ddim cyfyngiadau ar y math o offeryn na dull y gerddoriaeth, ond un offeryn yn unig a ganiateir ar gyfer pob cystadleuydd.    

Y diweddar Michael Dobson, oböydd, cerddolegwr ac arweinydd, drefnodd y gystadleuaeth ‘Cerddor Ifanc Dyfed’ gyntaf ym 1990.  Roedd ffurf y digwyddiad yn debyg iawn i fel y mae heddiw. 

Nod y gystadleuaeth yw darparu amgylchedd anfygythiol, lle gall bobl ifanc brofi cystadleuaeth gerddorol am y tro cyntaf.  Un o agweddau mwyaf pleserus y digwyddiad yw’r gyfeillgarwch ymhlith y cystadleuwyr.  Yn aml, mae’r bobl ifanc yma’n nerfus ond nid ydynt fyth yn cael arswyd.  

Mae’r gystadleuaeth gyfan, sy’n troi o amgylch y tair sir, yn agored i’r cyhoedd.  Mae’n cynnwys rownd gyntaf, sy’n para am fwyafrif y dydd ac yna’r rownd derfynol gyda’r hwyr.  Caiff pum cystadleuydd y rownd derfynol eu dewis gan dri beirniad, mae gan o leiaf dau ohonynt brofiad helaeth o feirniadu cystadlaethau cerdd.  Mae holl gystadleuwyr y rownd derfynol yn derbyn gwobrau arian parod ac yn ogystal, mae yna gyfleoedd i nifer o gystadleuwyr y rownd derfynol i ymddangos mewn cyngherddau yn ystod gwyliau lleol.  Mae’r rhain yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Gŵyl y Drovers a drefnir gan Glwb Cerddoriaeth Llanbedr Pont Steffan, Clwb Cerddoriaeth Trefdraeth a Musicfest Aberystwyth.

Awgrymwyd cystadleuaeth mwy newydd, ar gyfer Ensembles Ifanc, gan Ian Barton, Ysgrifennydd Cerddorion Ifanc Dyfed, sy’n ei drefnu erbyn hyn.  Yn wir, newidiwyd enw’r elusen o ‘Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed’ i ‘Cerddorion Ifanc Dyfed' i adlewyrchu ychwanegiad yr ail ddigwyddiad.  Mae’r gystadleuaeth yn debyg iawn i Gerddor Ifanc Dyfed, a chynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 2004.  Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr arian parod a gweithdy gyda pherson proffesiynol o’u dewis nhw.   

Yn anffodus, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r Gystadleuaeth Ensemble Ifanc ym mis Mawrth 2006, oherwydd diffyg cystadleuwyr.  Mewn mannau eraill, byddwn yn trafod mesurau eraill yr ydym yn eu gweithredu, i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.  Os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae mewn ensemble, cliciwch YMA, os gwelwch yn dda, i lenwi ffurflen, lle gallwch ddod o hyd i gerddorion ifanc o’r un feddwl ac y gallwch ffurfio ensemble gyda nhw.

Cynhelir y cystadlaethau diolch i ymdrechion diflino grŵp bach o ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, a chânt eu cefnogi’n hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y tri chyngor sir, Banc Barclays yn flaenorol a llawer o noddwyr unigol.   

Cynnwys Safle Cerddorion Ifanc Dyfed:

Hanes – y cystadlaethau.

Newyddion Diweddaraf / Hysbysfwrdd i Ensembles – disgrifiad o’r cylched diweddaraf a’r bwriad ar gyfer y cylched nesaf, gwahaniaethau ayb.   

Canlyniadau’r Gystadleuaeth - Canlyniadau, rhestr o gyn-enillwyr, cystadleuwyr y rownd derfynol a’u gweithiau.   

Dyddiadau a Lleoliadau – Dyddiadau a lleoliadau sydd i ddod (gyda dolenni i fapiau o’r lleoliadau a chalendr)

Yr Ymddiriedolaeth – a’i aelodau / gwirfoddolwyr eraill.  Manylion cyswllt ar gyfer swyddogion penodol a’u rolau.   

Recordiadau Cystadleuwyr y Rownd Derfynol – Argaeledd recordiadau o rowndiau terfynol cystadlaethau’r gorffennol a’r presennol, a’r modd o archebu cryno ddisgiau oddi ar lein.   

Noddwyr – Rhestr o noddwyr, cefnogwyr ac asiantaethau noddi, gyda dolenni (yn fuan).