Return to the Language Selection Screen
COMING SOON...


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec 
"Eisiau chwarae mewn ensemble?"
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth...

Amcanion yr Elusen (gweithred ymddiriedaeth):

I ddatblygu addysg y cyhoedd mewn cerddoriaeth yn arbennig, trwy gynnal cystadlaethau i bobl ifanc hyd at 19 oed a thrwy ddarparu cyngherddau cyhoeddus. (Governing Document - PDF 80K)

Crynodeb o’r Ymddiriedolaeth:

Ymddiriedolwyr ac aelodau’r pwyllgor trefnu:

Dot Griew, Cadeiryddes, Cerddorion Ifanc Dyfed

Ganwyd Dot yn Lerpwl ym 1948.  Treuliodd mwyafrif ei gyrfa nes 1995, ac eithrio cyfnod cynnar byr yn yr Adran Amddiffyn, gyda’r GIG, fel rheolwraig, yn enwedig dros wasanaethau cymunedol.  Daeth hi ag Antony i Gymru ym 1988 ac, yn dilyn nifer o swyddi gyda’r GIG, ymunodd â’r sector gwirfoddol, fel Cyfarwyddwraig cangen Gorllewin Cymru o’r Groes Goch Brydeinig yn wreiddiol.  Ar ddechrau’r 90’au, cyflawnodd un o’i dymuniadau ers blynyddoedd maith, a derbyniodd radd Hanes Celf trwy’r Brifysgol Agored.  Erbyn hyn, hi yw Cyd-drefnydd Rhanbarthol Sefydliad Codi Arian Cymru (dolen), adran Gymraeg y corff proffesiynol i godwyr arian i elusen.  Fel y cyfryw, un o’i phrif weithgareddau ar ran y Cerddorion Ifanc a’r Cyfansoddwr Ifanc, yw cynghori ar godi arian a marchnata yn effeithiol.  

Mae Dot yn arddwraig frwd, mae’n hoff iawn o deithio, bwyd da a gwin ac mae’n ddarllenwraig wancus.  Mae hi ac Antony yn mwynhau ychydig o gerdded anobsesiynol a gwylio adar.  

Anthony Lynch, Trysoryddes Cerddorion Ifanc Dyfed

Ganwyd Tony yn Swydd Efrog i deulu’r fyddin, a threuliodd ei blentyndod yn Llundain, yr Aifft a De Affrica. Cydiodd y blys crwydro ac ymunodd â’r Llynges Frenhinol ym 1951. Aeth ei yrfa ag ef yn ôl i Dde Affrica, Môr Y Canoldir, Awstralia a’r Dwyrain Pell.

Ym 1967, fel is gomander, dewisodd fywyd mwy sefydlog a gadawodd i ddarllen ar gyfer PPE yn Rhydychen. Dilynwyd hyn gan gyfnod o bum mlynedd gydag IBM, ac yna cafodd ei wahodd i redeg cwmni rhaglennu cyfrifiaduron i un o’i Gleientiaid.

Mae Tony wedi ymddeol erbyn hyn, ac mae’n byw bywyd gweithgar iawn o anial dir Gorllewin Cymru. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys cerddoriaeth glasurol, theatr gerddorol, bale a jas.

Ian Barton, Ysgrifennydd, trefnydd cystadleuaeth Ensemble Ifanc Dyfed

Ganwyd Ian Barton yn Abertawe, a chafodd ei godi ym Mirmingham.  Tra’n fyfyriwr israddedig yng Nghaergrawnt, bu’n canu yng nghôr cymdeithas gerdd y brifysgol.  Wedi gadael y brifysgol, bu’n dysgu yn Keele a Ghana, daeth i Lanbedr Pont Steffan, lle bu’n darlithio’r Clasuron a Hanes Hynafol yn y coleg nes iddo ymddeol.  Am flynyddoedd lawer, bu’n ysgrifennydd ar Glwb Cerddorol Llanbedr Pont Steffan, ac mae wedi bod yn un o Ymddiriedolwyr Cerddorion Ifanc Dyfed ers 1999.  Un o’i awgrymiadau ef a arweiniodd at ffurfio’r gystadleuaeth Ensemble Ifanc, ac ef yw Cynullwr y Pwyllgor Trefnu.

Mrs Philippa Gould, Ymddiriedolwraig Cerddorion Ifanc Dyfed

Bu Philippa Gould (ARCM) yn hyfforddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol, ac wedi hynny ymunodd ag Adran Gerdd y BBC, lle cyfarfu â’i gŵr, Peter.  Symudodd y teulu i Aberteifi ym 1976 i ddechrau ffermio, a phan oedd amser yn caniatáu, bu’n rhoi gwersi piano i ddisgyblion hyd at Radd VIII.  Wedi iddi golli ei gŵr ym 1992, fe wnaeth hi a’i theulu sefydlu ymddiriedolaeth i brynu piano cyngerdd i’r ardal, a chyda nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, prynwyd y piano cyngerdd  Steinway yn 2004.  Enwyd yr Ymddiriedolaeth yn Ymddiriedolaeth Gerddorol Peter Gould, er cof am ei gŵr ac, erbyn hyn, mae’n cynnal cyfres tra llwyddiannus o gyngherddau yn Theatr Mwldan, Aberteifi.  Yn ogystal, mae Philippa ar Bwyllgor 'Making Music' Cymru.

Emyr Wynne Jones, Is-Lywydd Anrhydeddus

Ganwyd ef yn Sir Gaerfyrddin, a bu Emyr yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio gyda B.Mus a gradd Meistr.  Cychwynnodd ar ei yrfa broffesiynol fel Pennaeth Cerdd mewn ysgolion uwchradd ym Manceinion Fwyaf o 1979 i 1993.  Ym mis Ionawr 1994, dychwelodd ef a’i deulu i Gymru, pan ymgymerodd â swydd Ymgynghorwr Cerdd Sirol Dyfed.  Ers 1996, mae wedi gweithio fel Ymgynghorwr, o fewn Sir Gaerfyrddin yn bennaf, ond yn gwasanaethu Ceredigion hefyd. Mae’n arwain Corau a Cherddorfeydd yn y ddwy sir, a hefyd mae’n arwain Côr Ieuenctid a Cherddorfa’r Tair Sir.  

Roger Mills, Ymddiriedolwr, trefnydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed

Nes yn ddiweddar, roedd Roger Mills yn ddarlithydd Sbaeneg yn Adran Ieithoedd Ewropeaidd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Fe wnaeth ennyn ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth am y tro cyntaf gan gerddori amaturaidd ei dad a’i gyfeillion.  Mae’n difaru’n fawr nad yw ef ei hun yn berfformiwr, ond mae wedi bod yn ymwneud â hyrwyddo cyngherddau cerddoriaeth siambr trwy Glwb Cerdd Aberystwyth, lle mae wedi bod yn gadeirydd ddwywaith.  Gweithgareddau’r Clwb ar gyfer pobl ifanc a ddaeth ag ef i gysylltiad â Cherddorion Dyfed

Pamela Ashcroft, Ymddiriedolwraig Cerddorion Ifanc Dyfed

Ganwyd Pamela yn Sussex ym 1939. Dechreuodd ganu’r piano pan oedd ym 5 mlwydd oed, a bu’n ffodus i fod yn ddisgybl i Joan Last. Mae’n briod – – gyda thri o blant sy’n oedolion erbyn hyn. Bu’n gweithio gyda Chyngor Sir Bucks a Chanolfan Gerdd Milton Keynes am 25 mlynedd, yn rhoi gwersi piano i bobl o bob oed a gallu mewn Canolfannau Cerdd ac Ysgolion. Mae wedi bod yn ymwneud â Gwyliau Cerdd a Chystadlaethau ers blynyddoedd lawer, fel disgybl yn gyntaf ac yna fel athrawes. Aeth llawer o’i disgyblion ymlaen i gael gyrfa mewn cerddoriaeth. Erbyn hyn mae’n mwynhau ei hymddeoliad yng Nghymru, mae’n hoff o arddio a gwylio adar. Daeth yn ymddiriedolwraig ac yn ysgrifenyddes i Gerddorion Ifanc Dyfed ym mis Ionawr 2007. 

Nôl i’r Brig