Return to the Language Selection Screen
COMING SOON...


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec 

Samplau o Gerddoriaeth ar Gryno Ddisgiau’r Cerddorion Ifanc a’r Cyfansoddwyr Ifanc:

Daw’r recordiadau proffesiynol yma o ddwy gryno ddisg – un ar gyfer pob digwyddiad.  Mae’r cryno ddisgiau yma ar gael i’w prynu am £5 ac unrhyw rodd y gallwch ei roi, trwy gysylltu ag Antony Griew.  Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, os gwelwch yn dda, pan ym gwneud ymholiad.  [Manylion cyswllt AG]

Defnyddiwch y chwaraewr isod i wrando ar samplau o’r gerddoriaeth.  Ar y dde, gwelwch wybodaeth am yr artist.

I ddadlwytho’r sampl, cliciwch y botwm ar y dde ar y ddolen ‘dadlwytho’, a dewiswch "Save As..." i’w safio ar eich cyfrifiadur.

This text will be replaced by the flash music player.

William Edwards, marimba: Paul Creston 'Marimba Concerto 3rd Movement'

(Trac 1)

Mae’r chwaraewr Marimba, William Edwards yn 14 oed, mae’n byw yn Ninbych y Pysgod ac mae’n mynychu Ysgol Greenhill.  Daeth yn drydydd yng Ngherddor Ifanc Dyfed Barclays 2005.

Paul Creston (1906-1985).  Ganwyd yn Efrog Newydd i deulu tlawd o fewnfudwyr, a daeth Paul Creston, a’i enw go iawn oedd Giuseppe Guttoveggio, yn un o’r cyfansoddwyr Americanaidd a berfformiwyd mwyaf.  Roedd yn chwech ar hugain cyn iddo benderfynu ar yrfa mewn cyfansoddi, roedd ei hyfforddiant cerddorol ffurfiol yn cynnwys technegau sylfaenol ar y piano a’r organ yn unig.  Daeth yn gyfansoddwr toreithiog ac yn athro uchel ei barch.  Ym 1968, cafodd ei benodi’n Athro mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Talaith Washington. Heb hyfforddiant ffurfiol dramor, roedd yn gyfansoddwr Americanaidd ‘pur’, ac eto ni wnaeth gofleidio steil cenedlgarol erioed, daeth ei ysbrydoliaeth o gerddoriaeth Ewropeaidd y prif ffrwd.  Gyda’i Symffoni Cyntaf, a gyfansoddwyd ym 1940, y daith i sylw’r cyhoedd yn eang, a derbyniodd y gwaith ganmoliaeth gan Feirniaid Cerddoriaeth Efrog Newydd.  Mae’n bosib i’w ddiffyg hyfforddiant academaidd gyfrif am ansawdd ffres a digymell ei waith.  Yn ei hanfod, cyfansoddwr yr oes Ramantaidd ydoedd, yn gweithio yn yr 20fed ganrif.  Mae’r concertino i’r marimba a welir yma’n haeddu cael ei berfformio’n amlach.

Nôl i’r Brig

Catrin Price, ffliwt: Francis Poulenc 'Sonata for flute, 1st movement'

(Trac 2)

11 oed oedd y ffliwtydd Catrin Price pan berfformiodd hi’r gwaith hwn.  Mae’n byw ym Mronwydd, Sir Gaerfyrddin ac mae’n mynychu Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin.  Roedd yn un o gystadleuwyr rownd derfynol Cerddor Ifanc Dyfed Barclays 2005, a daeth yn drydydd yn 2004.

Ganwyd Francis Jean Marcel Poulenc (1899-1963) ym Mharis.  Ei fam, a oedd yn bianydd amaturaidd, a ddysgodd ef i ganu’r piano, a roedd cerddoriaeth yn rhan o’r bywyd teuluol.  Fel gŵr ifanc, ym 1918 roedd yn cyflawni’i Wasanaeth Milwrol Cenedlaethol ond fe lwyddodd i gyfansoddi tri o sgoriau poced serch hynny.  Ar un amser, yr enwocaf o holl gerddoriaeth Poulenc oedd tri Symudiad y perpétuels ym 1918, ond efallai mai ei waith mwyaf llwyddiannus oedd yr opera ‘Dialogues des Carmélites’.  Yn ei allbwn cerddorol amrywiol, mae llu o ddylanwadau yn un o nodweddion enwog o gerddoriaeth Poulenc, a ellir ei adnabod fodd bynnag, wedi clywed ychydig fariau’n unig.  Ymhlith ei ddylanwadau ffurfiannol mae Igor Stravinsky, Emmanuel Chabrier, a steiliau cerddoriaeth boblogaidd Ffrengig a 'café-concert'.  Yn ogystal â’i dri opera, cyfansoddodd Francis Poulenc sawl ‘concerti’ i’r organ, yr harpsicordydd, a’r piano, yn ogystal ag offerennau, a cherddoriaeth siambr gydag ychydig iawn o weithiau cerddorfaol yn unig.  Roedd yn hoff iawn o offerynnau chwythbren, a chynlluniodd gyfres o sonatâu ar eu cyfer nhw i gyd, ac eto tri yn unig y cafodd fyw i’w cwblhau: y ‘Flute Sonata’ a chwaraeir gan Catrin (1956), yr ‘Oboe Sonata’ (1962) a’r ‘Clarinét Sonata’ (1962), gweithiau o brydferthwch marwnadol a pherffeithiwch dechnegol.

Nôl i’r Brig

Endaf Morgan, piano: George Gershwin 'The Man I Love'

(Trac 3)

Mae’r pianydd Endaf Morgan yn byw ym Mwlchllan, ger Tregaron, Ceredigion ac mae’n mynychu Ysgol Uwchradd Tregaron.  Yn ogystal, fe gyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc Dyfed Barclays 2002, gan chwarae’r tiwba, ac mae’n mwynhau canu mewn côr.  Mae’n 17 oed.  Daeth yn ail yn y gystadleuaeth bresennol. 

Nid oes angen unrhyw gyflwyniad ar Ludwig van Beethoven (1771-1827) na George Gershwin (1898-1937) yma.  Mae symudiad olaf y sonata 'Moonlight' yn C llonnod lleddf yn llai enwog na’r cyntaf, ac mae’n llawn angerdd.  Mae 'The Man I Love' yn un o ddarnau enwocaf a mwyaf poblogaidd Gershwin.

Nôl i’r Brig

Lee Mottram, clarinét: Gerald Finzi 'Five Bagatelles, no 1'

(Trac 4)

Mae Cerddor Ifanc Dyfed Barclays 2005, y clarinetydd Lee Mottram yn 18 oed, mae’n byw ym Mhenfro ac mae’n mynychu Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod.  Yn dilyn rownd derfynol y gystadleuaeth, fe berfformiodd yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn ei Lwyfan Cerddor Ifanc gan chwarae, ymhlith darnau eraill, perfformiad cyntaf ‘Kinetic’, gwaith a gomisiynwyd gan ymddiriedolwyr Cyfansoddwr Ifanc Dyfed, yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gan Jack Westmore, Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2006.

Mae cerddoriaeth Gerald Finzi (1801-1956) wedi’i wreiddio yn nhraddodiad Elgar, Parry, Vaughan Williams a’r cyfansoddwyr hynny yn negawdau cynharaf y ganrif ac iddynt, fel Ivor Gurney, roedd ysgrifennu caneuon yn gyfrwng pwysig o fynegiant.  Mae tua dwy ran o dair o’i waith yn lleisiol ac mae’n rhoi cliw i nodwedd unigol mwyaf crefft Finzi- ei ymateb i eiriau – sy’n arwain at gerddoriaeth a ymddengys yn anochel, ac yn ddiymdrech, i fod yn un â meddylfryd y bardd.  Ysgrifennwyd y ‘Five Bagatelles op.23’ ar gyfer y clarinét a’r piano rhwng 1938 a 1943.  Y Rhagarweiniad yw’r cyntaf o’r pump, y lleill yw 'Romance', 'Carol', 'Forlana', a 'Fughetta'.

Nôl i’r Brig