Return to the Language Selection Screen
COMING SOON...


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec 
"Eisiau chwarae mewn ensemble?"
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth...

Newyddion Diweddaraf

Cerddor Ifanc Dyfed 2008
Ensembles Ifanc

Gellir dibynnu ar Gyngor Celfyddydau Cymru!

Cerddor Ifanc Dyfed

Rydym ni angen eich cymorth bob amser...

Sylwer, os gweler yn dda, fod pob un o’r tair cystadleuaeth yn derbyn ceisiadau gan bobl ifanc mewn addysg llawn amser yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn hyn, hyd yn oed os ydynt yn byw tu allan i’r ardal.

Cerddor Ifanc Dyfed 2008

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed yn Theatr Mwldan ar yr 8fed o Dachwedd. Yr enillydd oedd y ffliwtydd Rebecca Griffiths, 17, o Aberdaugleddau, a fydd yn perfformio yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym mis Mai. Cathryn Ann Rees, 12 oed, o Lanymddyfri ddaeth yn ail ac yn drydydd oedd Huw Llyr Evans, 15, o Aberystwyth.

Nôl i’r Brig

Ensembles Ifanc

Cynhelir dosbarth meistr i hyd at dri ensemble taro, o 11yb i 2:30yh, ar yr 2il o Ebrill 2009. Bydd y dosbarth meistr yn cael ei arwain gan y grŵp llwyddiannus yn rhyngwladol, ‘O Duo’, sef ensemble preswyl presennol Cyfansoddwr Ifanc Dyfed. Mae croeso i’r cyhoedd i fynychu.

Nôl i’r Brig

Gellir dibynnu ar Gyngor Celfyddydau Cymru!

Y mis hwn, rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cynnig o hyd at £16,000 ar y cyd (h.y: ar gyfer y 2 elusen), oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.  Yn amlwg, rydym ni’n eu plesio gan nad oes yna unrhyw amodau ychwanegol.

Bydd yr arian yn cael ei rannu oddeutu 2/3 i’r Cyfansoddwr Ifanc ac 1/3 i’r Cerddorion Ifanc, gan adlewyrchu costau blynyddol perthynol y ddwy elusen.

Nôl i’r Brig

Cerddor Ifanc Dyfed 2007

Yr enillydd oedd telynor 17 oed, Llywelyn Jones o Felinfach ger Aberaeron. Yn ail oedd Rupert Browne, 17, o Lanfyrnach gyda’r corn Ffrengig ac yn drydydd oedd Carina Evans, 14, o Aberdaugleddau ar y marimba.

Cerddor Ifanc Dyfed 2006

Steffan Ciccotti, chwaraewr y marimba 15 oed o Begelly, ger Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro, sydd erbyn hyn yn astudio yn Ysgol Gerdd Chethams ym Manceinion.

Nôl i’r Brig

Rydym ni angen eich cymorth bob amser...

Caiff ein dwy elusen eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn unig, a does yna fyth digon ohonom.  P’un ai eich bod eisiau bod yn Ymddiriedolwr a’i peidio, bydd unrhyw gymorth y gallwch ei roi yn cael ei dderbyn gyda diolch.  Cysylltwch ag unrhyw un o’r Ymddiriedolwyr presennol, ond yn enwedig Antony neu Dot Griew, i drafod y ffordd orau y gallwch weithio gyda ni.   

A gawn ni awgrymu dwy ffordd o’n cefnogi:  

  • Gwnewch www.everyclick.com yn dudalen flaen eich porwr Rhyngrwyd, a dewiswch Cerddorion Ifanc Dyfed fel eich elusen o ddewis.  Mae’r safle injan chwilota hwn yn rhoi hanner ei elw i elusennau, yn gymesur â’r nifer o ‘gyfraddau taro’ mae’n ei dderbyn o blaid pob un maent wedi eu cofrestru.  Os teimlwch fod y cyfleusterau’n wannach na Google (neu eich hoff injan chwilota), yna ewch i’r injan honno a thynnwch ei eicon o flaen y llinell reoli i far isaf y pennawd.  Yna, byddwch yn medru symud yn syth i’r safle hwnnw a chefnogi’r Cerddorion Ifanc ar yr un pryd;
  • Anfonwch eich cetris Inkjet gwag atom.  Gall Cyfansoddwr Ifanc Dyfed eu hanfon i ffwrdd am arian da (rydym wedi gwneud dros £100 o wneud hyn dros y flwyddyn ddiwethaf.)  Mae pob math arall, ar wahân i Epson, yn dderbyniol.   

Fel gyda’r cystadlaethau eraill, gallwch ddod o hyd i ffurflen gais Cyfansoddwr Ifanc Dyfed ar y safle hwn fel ffeil .PFD.

Nôl i’r Brig