|
Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed
Cystadleuaeth Ensemble Ifanc Dyfed
Cychwynnodd cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed gyda gweledigaeth un dyn.
Ym 1990, trefnodd y diweddar Michael Dobson y gystadleuaeth gyntaf, fel rhan o Ŵyl Caerfyrddin, sydd wedi peidio erbyn hyn (er fod yna gynlluniau i’w hadfywio). Roedd ffurf y digwyddiad yn debyg iawn i fel y mae heddiw. Roedd pobl ifanc o dan 19 oed yn cael eu gwahodd i berfformio, ar offeryn o’u dewis, rhaglen 15 munud o gerddoriaeth amrywiol. Doedd yna, a does yna, ddim cyfyngiadau ar y math o offeryn na dull y gerddoriaeth, ond un offeryn yn unig a ganiateir ar gyfer pob cystadleuydd.
Un o agweddau mwyaf pleserus y digwyddiad yw’r gyfeillgarwch ymhlith y cystadleuwyr. Yn aml, mae’r bobl ifanc yma’n nerfus ond nid ydynt fyth yn cael arswyd.
Pan ddaeth Gŵyl Caerfyrddin i ben ym 1994, cafodd y gystadleuaeth ei throsglwyddo i awenau Clwb Celfyddydau Caerfyrddin (‘Celfyddydau Caerfyrddin’ erbyn hyn). Erbyn hynny, bu farw Michael a throsglwyddwyd y fflam i Dr Madeline Mayne, meddyg y frest ymddeoledig. Symudwyd y gystadleuaeth o fis Mehefin, mis yr ŵyl flaenorol, i fis Tachwedd, a oedd yn ymddangos yn haws i’r cystadleuwyr, oherwydd y calendr ysgol. Mae wedi aros fel yma ers hynny.
Mae’r gystadleuaeth gyfan yn agored i’r cyhoedd. Mae’n cynnwys rownd gyntaf, sy’n para am fwyafrif y dydd ac yna’r rownd derfynol gyda’r hwyr. Caiff pum cystadleuydd y rownd derfynol eu dewis gan dri beirniad, sydd â phrofiad helaeth o feirniadu cystadlaethau cerdd. Mae holl gystadleuwyr y rownd derfynol yn derbyn gwobrau arian parod ac mae hynny i’r enillydd yn wobr sylweddol, yn enwedig os yw’r unigolyn yn ifanc iawn (roedd enillydd 2004 yn 14 oed). Yn ogystal, mae yna gyfleoedd i nifer o gystadleuwyr y rownd derfynol i ymddangos mewn cyngherddau yn ystod gwyliau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Gŵyl y Drovers a drefnir gan Glwb Cerddoriaeth Llanbedr Pont Steffan a Musicfest Aberystwyth.
Bu farw Madeline ym 1999. Ar yr un pryd, daeth Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed yn ymddiriedolaeth elusennol cofrestredig, gan wahanu’n gyfeillgar oddi wrth Celfyddydau Caerfyrddin. Un o’r prif resymau oedd rhannu Sir Ddyfed i’w thair sir flaenorol (i’r rhai hynny sy’n ansicr o’u daearyddiaeth o Gymru, y siroedd yw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro). Teimlwyd ei bod hi’n bwysig cylchdroi’r digwyddiad o gylch y tair sir, lle cafodd ei gynnal yng Nghaerfyrddin bob blwyddyn cyn hynny. Yn ogystal, roedd codi arian yn datblygu’n broses mwy cymhleth, a oedd yn galw am gymorth Cynghorau Sir, busnesau ac unigolion, parthed ag un o’r siroedd yn unig, yn aml.
Yn gyffredinol, roedd rhwng 17 a 23 o gystadleuwyr yn cystadlu, er yn y dyddiau cynnar disgynnodd i mor isel â naw, a chafwyd unwaith 25. Un broblem ddifrifol oedd osgoi cyd-daro â digwyddiadau eraill, mwy mawreddog yn allanol. Mae’r rhain yn tyfu’n gyson o ran nifer ac, yn enwedig lle maent yn cynnwys cystadleuwyr sy’n grwpiau o ysgolion, ac mae hyn yn golygu fod llawer a fyddai’n hoffi cystadlu, yn methu. Mae cystadleuaeth ddwyflynyddol Cerddor Ifanc Cymru Texaco a chystadleuaeth bandiau pres flaenllaw yn Nhreorci ymhlith y rhai sy’n rhaid eu hosgoi.
Gellir gweld ein bod wedi bod yn llwyddiannus o nodi ein bod ni newydd gynnal ein hunfed digwyddiad ar bymtheg, bod gyda ni sŵm rhesymol yn y banc, ac mae nifer o ddysgodron go iawn wedi pasio drwodd ar lwybr eu gyrfaoedd mewn cerddoriaeth. Mae cystadleuwyr rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC a chystadlaethau pwysig eraill yn cynnwys Catrin Hughes, clarinetydd, ym 1992; Catrin Finch, telynores, 1993; Rakhi Singh, ffidler, 1995; Ed Jones, trombonydd, 1996; a’r ddau frawd Singh arall, Davi a Simmy, ffidleriaid, yn 2002 a 2004, i enwi ond ychydig. Nid yw’r ddawn gerddorol yng Ngorllewin Cymru fyth yn peidio â’n rhyfeddu ac nid yw’n dangos unrhyw arwydd ei fod yn pylu. Yn wir, mae yna gyfnodau pan ymddengys fod un offeryn neu grŵp offerynnol yn esgyn. Yn y dyddiau cynnar, roedd yna lawer iawn o soddgrythorion ifanc da, yna daeth tro’r ffidl, a rydym ni bob amser wedi cael llif cyson o chwaraewyr offerynnau pres da o ardal Aberystwyth. Mae’n amlwg eu bod yn ymwneud â phresenoldeb athrawon ardderchog yn yr offerynnau yma, sy’n mynd a dod yn ôl y disgwyl. Fodd bynnag, roedd pedwar allan o’r pymtheg o enillwyr yn chwarae offerynnau chwythbren (tri clarinetydd a ffliwtydd) ac mae’r chwythbren wedi bod yn amlwg iawn mewn llawer o rowndiau terfynol, felly nid yw’r tuedd hwn yn absoliwt.
Nôl i’r Brig
Cystadleuaeth Ensemble Ifanc Dyfed
Nid yw’r holl syniadau’n ymwneud â datblygiad cerddorol ymhlith ieuenctid Dyfed yn deillio o feddwl ffrwythlon Michael Dobson. Awgrymwyd y gystadleuaeth ddiweddaraf, ar gyfer Ensembles Ifanc, gan Ian Barton, Ysgrifennydd Cerddorion Ifanc Dyfed, sy’n ei drefnu erbyn hyn. Yn wir, newidiwyd enw’r elusen o ‘Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed i ‘Cerddorion Ifanc Dyfed’, i adlewyrchu’r ail ddigwyddiad ychwanegol.
Mae’r gystadleuaeth yn debyg iawn i Gerddor Ifanc Dyfed, sef bod y rownd gyntaf yn cael ei chynnal yn ystod y dydd (unwaith eto, ceir rhaglen o 15 munud gan bob grwˆp), a chyngerdd gan bum cystadleuydd y rownd derfynol gyda’r nos.
Gall yr ensembles fod o unrhyw faint, o driawd i wythawd, ac yn wir mae pob math o grŵp a ganiateir wedi cystadlu. Anogir grwpiau lleisiol yn ogystal â rhai offerynnol, a chyfuniad o’r ddau (er nad oes neb o’r dewis olaf wedi cystadlu). Does yna ddim cyfyngiadau ar ddull cerddorol yr ensembles. Dau ensemble pres sydd wedi ennill mor belled, yn chwarae unrhyw beth o Michael Praetorius i Cole Porter, a grŵp taro yn chwarae biniau sbwriel, sosbenni a chyfarpar arall o’r gegin (gan alw eu hunain yn "Home Made"yn briodol iawn), heb sôn am un neu ddau o ddrymiau “arferol” a darnau o ddodrefn yn y neuadd, pob un yn rhythm y Tango.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 2004, ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi ar gyfer y drydedd. Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr arian parod a pherson proffesiynol o’u dewis nhw. Eleni, rydym yn ystyried ail wobr a thystysgrif a fydd yn cael ei roi i’r ensemble mwyaf addawol nad sy’n cyrraedd y rownd derfynol.
Yn anffodus, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r Gystadleuaeth Ensemble Ifanc ym mis Mawrth 2006, oherwydd diffyg cystadleuwyr. Mewn mannau eraill, byddwn yn trafod mesurau eraill yr ydym yn eu gweithredu, i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae mewn ensemble, cliciwch YMA, os gwelwch yn dda, i lenwi ffurflen, lle gallwch ddod o hyd i gerddorion ifanc o’r un feddwl ac y gallwch ffurfio ensemble gyda nhw.
Nôl i’r Brig
|
 |