|
Mae sawl ffordd y gallwch gystadlu yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed.
- Gellir anfon ffurflen trwy’r post;
- Os oes gennych Ddarllenydd Adobe Acrobat [cliciwch yma i ddadlwytho’r Darllenydd os oes angen mae am ddim] gallwch ddadlwytho ac argraffu’r ffurflen gais trwy glicio yma;
- Cliciwch YMA i ddadlwytho’r
rheolau
- Ffonio’r Gadeiryddes, Dot Griew, ar 01267 237261, neu e-bostiwch hi ar d.griew@virgin.net gyda eich enw a’ch cyfeiriad ac fe wneith anfon copi atoch.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni eleni yw Dydd Gwener yr 30ain o Hydref.
Bydd eich cais yn cael ei gydnabod, a byddwn yn anfon rhaglen ar gyfer rowndiau’r dydd atoch yn ei dro, yn cynnwys amser eich perfformiad. Yn gyffredinol, pa agosaf yr ydych yn byw i Drefdraeth, Sir Benfro (lle cynhelir y digwyddiad eleni) y cynharaf y cewch eich galw.
Cymhwyster a Rheolau
Rhaid ichi fod:
- Yn 18 oed neu’n ifancach ar y 30ain o Dachwedd 2009;
- Naill ai: yn Breswylydd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro;
- Neu: gyda chyfeiriad cartref yn un o’r siroedd yma;
- Neu: mewn addysg llawn amser mewn ysgol yn un o’r siroedd yma;
- Gallwch chwarae unrhyw offeryn, ond un yn unig;
- Dylai’r cystadleuwyr fod wedi cyrraedd safon 5 (neu safon gyfwerth i’r rhai hynny nad sy’n sefyll yr arholiadau yma);
- Os ydych chi angen cyfeilydd cewch ddod ag un gyda chi (a gall fod o unrhyw oed) neu gallwch ofyn i ni ac fe wnawn ddarparu un am ddim;
- Dylech chi chwarae rhaglen amrywiol o gerddoriaeth, nid mwy na 15 munud;
- Rhaid ichi chwarae unrhyw ddarn neu symudiad a ddewiswch yn ei gyfanrwydd;
- Os y gwnewch chi gyrraedd y rownd derfynol, cewch ymestyn eich rhaglen i 20 munud, ond nid yw hynny’n orfodol;
- Mae’n rhaid ichi ddarparu copïau o’r gerddoriaeth ar gyfer y tri beirniad.
Darllenwch y rheolau a ddadlwythwch yn ofalus, os gwelwch yn dda. Maent yn fwy manwl na’r rhai uchod ac maent yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ychwanegol.
Cliciwch YMA i ddadlwytho ffurflen gais (Dogfen Microsoft Word)
Cliciwch YMA i ddadlwytho’r rheolau (Dogfen Microsoft Word)
angen |