|
Mae chwarae cerddoriaeth mewn grwˆp, o unrhyw fath, yn brofiad gwerthfawr iawn i unrhyw un sy’n chwarae offeryn.
Nid yw’n hawdd, serch hynny, dod o hyd i bartneriaid neu sefydlu ensemble. Os ydych yn yr ysgol a’ch bod chi’n chwarae mewn grwˆp, bydd y bobl yn y grwˆp hynny’n newid yn gyson, wrth i’r aelodau presennol adael yr ysgol a bydd aelodau newydd yn ymuno. Weithiau nid yw’n bosib i’r grwˆp barhau.
Rydym ni hefyd, yng Ngherddorion Ifanc Dyfed, yn cael trafferth dod o hyd i Ensembles Ifanc sy’n gymwys ac yn barod i gystadlu yn ein cystadleuaeth. Felly, rydym yn cychwyn ar y gwasanaeth ‘trefnu’ ar lein hwn.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o ensemble, cwblhewch y ffurflen, os gwelwch yn dda. Byddwn ni’n ei chasglu, a’i hychwanegu at ein cronfa ddata, ac yn anfon e-bost atoch i gydnabod ein bod wedi eich ychwanegu at ein cofnodion.
Pan fydd pobl eraill gyda dymuniadau tebyg i chi yn cyflwyno cais (neu os oes pobl addas ar ffeil gyda ni eisoes) byddwn yn cysylltu â chi gyda’u enwau a’u cyfeiriadau.
Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw un ar wahân i’r bobl hynny y teimlwn fyddai’n addas i ffurfio grwˆp gyda chi.
Mae angen pianyddion yn enwedig. Yn aml, mae rhannau’r piano mewn cerddoriaeth siambr yn anoddach na’r rhannau eraill, ac felly mae’n anodd perswadio pianyddion i ymuno ag ensembles, yn enwedig gan bod y piano’n offeryn mor hunangynhaliol. Peidiwch â gwastraffu’r cyfle hwn i berfformio gyda phobl eraill ar eich lefel chi o allu.
|