 |
 |
 |
 |
|
|
| Croesawir rhoddion bob amser. Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec |
|
|
|
|
|
|
|
|
Amcanion yr elusen (gweithred ymddiriedaeth Chwefror y 18fed 2004):
I ddatblygu addysg pobl ifanc mewn cyfansoddi cerddoriaeth hyd at, ac yn cynnwys, 22 oed, sy’n breswylwyr yn siroedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. (Governing Document - PDF 84K)
|
 |
|
Crynodeb o’r Ymddiriedolaeth:
|
|
|
Ymddiriedolwyr ac aelodau’r pwyllgor trefnu:
|
|
 |
June Williams, Cadeiryddes
Mae June Williams yn gynghorydd Sir a Thref yng Nghaerfyrddin. Ar hyn o bryd, hi yw cadeiryddes Pwyllgor Cynllunio’r Sir. Mae wedi bod yn Faer Caerfyrddin dair gwaith, y tro diwethaf yn 2004/05.
Ganwyd June yn Llundain, ond cafodd ei mudo gyda’i mam i Henffordd yn 1939, a bu’n byw yno nes 1974. Yn dilyn arhosiad byr yn Abermaw, symudodd i Gaerfyrddin, lle mae wedi bod yn byw ers 1977. Mae wedi bod yn bostfeistres yn Nhre Ioan ers 25 mlynedd, lle mae’n byw ar hyn o bryd.
Rhwng 1975 a 1985, bu June yn gweithio gyda’r Brownies a’r Girl Guides. Yn ddiweddar, fe drefnodd ganolfan galw i mewn a chlwb ieuenctid i bobl ifanc dan anfantais.
Ar hyn o bryd, mae June yn llywodraethwr ysgol ar fyrddau Ysgol Gynradd Tre Ioan ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, mae’n un o ymddiriedolwyr galeri Oriel Myrddin, ac mae’n cynrychioli’r Cyngor Sir ar bwyllgor Canolfan Deuluol Tyˆ Ni. Mae’n ymwneud â rhaglen Gefeillio Tref Caerfyrddin gyda Lesneven (Llydaw) ac As Pontes (Galicia, Sbaen).
|
|
|
Steve Westmore, Trysorydd
Steve Westmore, Trysorydd Ganwyd Steve Westmore yn Llundain a symudodd
i Gymru ym 1979.
Mae’n gyfarwyddwr ar gwmni meddalwedd bychan sy'n gweithio yn y sector gofal iechyd.
Daeth i wybod am gystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn 2004, pan gystadlodd Jack
ei fab am y tro cyntaf. Gan nad yw Jack bellach yn gymwys i gystadlu yn y gystadleuaeth,
ymunodd â bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ddiwedd 2006. Mae’n gobeithio bydd barn rhiant
o ddefnydd i fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac y bydd yn medru helpu gyda’r gystadleuaeth.
|
 |
|
 |
Dr Antony Griew, Ysgrifennydd Cyfansoddwr Ifanc Dyfed
Ganwyd Antony yn Gocni ym 1938, a chafodd ei godi yng ngogledd Llundain. Ymgymerodd â’i hyfforddiant meddygol yn Ysbyty Llundain. Yn dilyn ei dair swydd gyntaf yn Lloegr, derbyniodd swydd Swyddog Meddygol y Llywodraeth ym Malawi am 2 flynedd. Wedi iddo ddychwelyd i’r DU ym 1968, aeth i weithio ym maes iechyd cyhoeddus, ac arhosodd yn y proffesiwn hwn nes iddo ymddeol ym 1996. Rhwng 1977 a 1982, bu’n gweithio ym Mhapua New Guinea yn yr Ysgol Feddygol, yn dysgu ystadegau, demograffeg ac epidemioleg yn bennaf. Daeth i Gymru ym 1988, fel Ymgynghorwr Iechyd Cyhoeddus i Awdurdod Iechyd Dwyrain Dyfed. Treuliwyd cyfnod olaf ei yrfa ar brosiect gan y Swyddfa Gymreig i gofnodion claf electronig, a’i arbenigedd oedd materion yn ymwneud â chyfrinachedd a mynediad.
Ers iddo ymddeol, mae Antony yn ‘wirfoddolwr proffesiynol’. Yn ogystal â bod yn Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd i Gyfansoddwr Ifanc Dyfed ac Ymddiriedolwr a chyn Gadeirydd ar Gerddorion Ifanc Dyfed, mae ar fwrdd Shelter Cymru. Hefyd, mae’n gwneud tipyn o waith i’r Groes Goch Brydeinig. Mae ei ddiddordebau allgyrsiol, yn ychwanegol at gerddoriaeth, yn cynnwys bwyd (ei goginio a bwyta gormod ohono), gwin, teithio, darllen a hanes ei deulu.
|
|
|
Michael Parkin, Ymddiriedolwr Cyfansoddwr Ifanc Dyfed
Mae Michael Parkin yn gyfansoddwr, yn addysgwr ac yn athro sy’n gweithio ar ei liwt ei hunan. Wedi astudio cyfansoddi gyda William Mathias a Jeffrey Lewis yn yr UCNW ym Mangor, ymgymerodd â swyddi darlithio cyfansoddi ac astudiaethau cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif yng Ngholeg Polytechnig Huddersfield ac yna yng Ngholeg Sant Ioan yng Nghaerefrog. Mae wedi byw yn Sir Benfro ers 1991.
Trwy gydol ei yrfa mae wedi cael ei wahodd i gyfarwyddo gweithdai a phrosiectau cerddoriaeth dros 800 hyd yn hyn, yng ngogledd Lloegr yn bennaf, a ariannwyd gan fudiadau megis Celfyddydau Swydd Efrog a Humberside, Ymddiriedolaeth Nottingham Firebird, cynghorau dinasoedd Caerefrog, Leeds a Sheffield, Canolfan Ddawns Swydd Efrog, Canolfan Ffilm Caerefrog a Sefydliad Tippett. Gan ddefnyddio ei brofiadau eang ym meysydd theatr a dawns, roedd llawer o’r gweithdai a’r prosiectau yma’n gymysg o ran natur y cyfryngau, a roeddent yn cynnwys cydweithredu arloesol gydag artistiaid megis John Kerr, dawnswyr Tony Thatcher a Susie Ater, y cyfarwyddwyr theatr Annie Castledine a Chris Wallis, a phrosiect cerdd a ffilm gyda Michael Nyman. Mae ei waith presennol yn cynnwys prosiect cerdd a ffilm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a phrosiect tymor hir yn ysgolion Abertawe, i dywys plant ifanc trwy’r camau cyntaf o gyfansoddi.
Caiff ei waith ei ddarlledu a’i berfformio’n eang ym Mhrydain, Ewrop a’r UD. Mae’r gwobrau a enillwyd ganddo’n cynnwys Cystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Celfyddydau Swydd Efrog (1978), gwobr MidNAG (1979), a Gwobr Gyfansoddi Match TM 1996. Roedd ei ddarn 'Elegy' ar gyfer unawd ffliwt, yn un o ddau waith o Brydain yn unig i gael eu dewis ar gyfer Wythnos Gerddoriaeth Ryngwladol Gaudeamus 1984, yn Amsterdam. Ar hyn o bryd, ef yw derbynnydd Gwobr Cymru Greadigol CCC. Caiff ei gerddoriaeth ei chyhoeddi gan Amadeus Direct a Comus. Mae cryno ddisgiau o’i waith ar gael ar labeli Metier, Riverrun a Late Music.
Eleni (2006), derbyniodd Mike Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn ei defnyddio i gyfansoddi symffoni ar gyfer canwr gwerin a cherddorfa.
|
 |
|
 |
Janet Webb, Ymddiriedolwraig Cyfansoddwr Ifanc Dyfed
Derbyniodd Janet Webb ei haddysgu yn Swydd Gaerhirfryn, Swydd Aeron, Gorllewin yr Almaen (fel yr oedd) ac ym Moray House, Caeredin, lle graddiodd fel athrawes ysgol gynradd. Rhoddodd y gorau i ddysgu pan briododd â Milfeddyg, a symudodd i Gaerfyrddin ac yna i Fronwydd, lle mae’n byw nawr.
Mae Janet yn magu cathod Siamaidd, mae’n cadw cŵn Labrador a phraidd bach o ddefaid ac wŷn. Mae ei diddordebau’n cynnwys darllen, gwnïo, gwau, hanes a gwisgoedd canoloesol a cherddoriaeth. Mae’n canu yng nghôr Eglwys San Pedr ac yn y Myrddin Chorale, y ddau yng Nghaerfyrddin. Fel corydd, mae’n gweld yr angen am gyfansoddi’n gyson, a dyna pham mae’n un o Ymddiriedolwyr Cyfansoddwr Ifanc Dyfed. |
|
|
Y Pwyllgor Trefnu Nad sy’n Ymddiriedolwyr
|
|
Emyr Wynne Jones
Ganwyd ef yn Sir Gaerfyrddin, a bu Emyr yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio gyda B.Mus a gradd Meistr. Cychwynnodd ar ei yrfa broffesiynol fel Pennaeth Cerdd mewn ysgolion uwchradd ym Manceinion Fwyaf o 1979 i 1993. Ym mis Ionawr 1994, dychwelodd ef a’i deulu i Gymru, pan ymgymerodd â swydd Ymgynghorwr Cerdd Sirol Dyfed. Ers 1996, mae wedi gweithio fel Ymgynghorwr, o fewn Sir Gaerfyrddin yn bennaf, ond yn gwasanaethu Ceredigion hefyd. Mae’n arwain Corau a Cherddorfeydd yn y ddwy sir, a hefyd mae’n arwain Côr Ieuenctid a Cherddorfa’r Tair Sir.
Mae Emyr ar Bwyllgor Trefnu’r Ensemble Ifanc hefyd
|
 |
|
 |
Mrs Diana Morriss
Symudodd Diana Morriss i Gaerfyrddin 30 mlynedd yn ôl. Bu’n Weinyddwraig Ôl-raddedig yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru am 8 mlynedd, ond fe wnaeth ymddeol yn gynnar i weithio yn y sector gwirfoddol.
Bu Diana yn gwasanaethu am wyth mlynedd fel Llywodraethwraig y Rhieni yn Ysgol y Frenhines Elisabeth Cambria, cyn dod yn Gadeiryddes ym 1992/93. Roedd yn aelod o bwyllgor Gwˆyl Caerfyrddin am flynyddoedd, a dros y pedair blynedd diwethaf mae wedi bod yn Gadeiryddes ar Gelfyddydau Caerfyrddin, ac o dan ei nawdd y deilliodd y ddwy gystadleuaeth, Cerddor Ifanc Dyfed a Chyfansoddwr Ifanc Dyfed, cyn iddynt droi’n elusennau ar wahân.
Dros y 18 mis diwethaf, mae Diana wedi bod wrthi’n brysur yn ceisio dysgu Cymraeg.
|
|
|