|
Canlyniadau’r Gystadleuaeth
Ceir yna dri categori o gystadleuwyr: Grŵp A o dan 16 oed; Grŵp B - 16 i 18 oed; Grŵp C - 19 i 22 oed
Mae enillydd pob grŵp yn derbyn gwobr: Grŵp A £100; Grŵp B £150; Grŵp C £200.
Yn ogystal, ceir yna enillydd cyffredinol, sef Cyfansoddwr Ifanc Dyfed (ac nid oes yn rhaid iddo fod yn un o enillwyr y grwpiau), sy’n derbyn £250 a tharian her Celfyddydau Caerfyrddin. Nid dyma oedd yr achos pan gynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf ym mis Ebrill 2002, pan oedd enillydd un grŵp yn cael ei enwi’n ‘Gyfansoddwr Ifanc Dyfed'.
Ers rownd derfynol 2005, gwahoddwyd y gynulleidfa i ddewis eu hoff waith (cyn cyhoeddiadau’r beirniad). Mae cyfansoddwr y darn hwn yn derbyn gwobr Greenhalgh o £100.
Enillwyr:
Ebrill 2002
Grŵp A: Steffan Huw Watkins, gyda 'Cân Aria', i Soprano, Triawd Llinynnol a Phiano;
Grŵp B (a Chyfansoddwr Ifanc Dyfed): Jayne Evans, gyda 'Reflective Meditation' ar gyfer Pumawd Clarinét;
Grŵp C: Lisa Richards, gyda 'Three Moods', unawd Piano.
Ebrill 2003
Grŵp A (a Chyfansoddwr Ifanc Dyfed): Dan Laxton, gyda 'Lazy Day Blues' ar gyfer Pedwarawd Sacsoffon;
Grŵp B: Ni roddwyd gwobr;
Grŵp C: Rhannwyd y wobr rhwng Catherine Sullivan, gyda 'Tout Puissant', unawd piano, a Katie Thomas, gyda 'Capriccioso' i’r Clarinét, basŵn a Phiano.
Ebrill 2004:
Ni chynhaliwyd y gystadleuaeth.
Ebrill 2005:
Gwobr Cynulleidfa Greenhalgh: Matthew Wallace, fel grŵp A isod;
Grŵp A: Matthew Wallace, gyda 'Footie for Five', ar gyfer Pumawd Chwyth;
Grŵp B: Ruth Morris, gyda 'The Bells of Rome' ar gyfer pumawd chwyth;
Grŵp C: Jack Westmore, gyda 'Piece' ar gyfer Pumawd Chwyth a Phiano;
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed: Emma Downer, gyda 'Woodland Dance', ar gyfer Pumawd Chwyth (yn defnyddio picolo hefyd).
Ebrill 2006 (pob gwaith ar gyfer pedwarawd llinynnol):
Gwobr Cynulleidfa Greenhalgh: Matthew Wallace, gyda 'The Hoe-Down Lowdown';
Grŵp A: Claire Roberts, gyda 'Movement';
Grŵp B (cyd enillwyr): Eirlys Myfanwy Davies, gyda 'Tic Toc'; Steffan Huw Watkins, gyda 'A Suite Taste for Strings';
Grŵp C: Jack Westmore, gyda 'Roha';
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed: Jack Westmore.
Ebrill 2007 (pob gwaith ar gyfer pumawd pres oni bai y nodwyd fel arall):
Gwobr a Tharian Cynulleidfa Greenhalgh: Steffan Huw Watkins, gyda 'At the Opening of an Old Tune’;
Grŵp A: Claire Roberts, gyda ‘Austere Poem’;
Grŵp B: Susie Goffin, gyda ‘Y Môr Ladron’;
Grŵp C: Doedd dim cystadleuwyr y rownd derfynol yng Ngrŵp C;
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed: Ruth Morris, gyda ‘Lullaby for Vaughan’, ar gyfer trymped, corn Ffrengig, trombôn a thiwba.
Ebrill 2008
Gwobr a Tharian Cynulleidfa Greenhalgh: Gweirydd Davies, gyda ‘The Looming’, ar gyfer pedwarawd lleisiol gydag ychwanegiadau electronig;
Grŵp A: Cerian Lindsay, gyda ‘Appropriation of the Lullaby Heno, Heno’, ar gyfer pedwarawd lleisiol gydag ychwanegiadau electronig;
Grŵp B: Gweirydd Davies, fel yr uchod;
Grŵp C: Sarah Lianne Lewis, gyda ‘Ave Maria’, ar gyfer uwchdenor, bariton a bas;
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed: Stacey Doherty, gyda ‘City Life’ ar gyfer pedwarawd lleisiol gydag ychwanegiadau electronig;
Ebrill 2009
Gwobr a Tharian Cynulleidfa Greenhalgh: Jack Amblin, gyda ‘Amblinika’, ar gyfer dau farimba ac offer drymiau llawn;
Grŵp A: Amané Suganami, gyda ‘LIH’, ar gyfer y marimba a fibraffon;
Grŵp B: Siôn Hupfield, gyda ‘Three Variations on a 12-tone Scale’, ar gyfer dau farimba, fibraffon ac offer taro;
Grŵp C: Aled Start, gyda ‘Habib’s Circle’ ar gyfer y marimba, fibraffon a phiano;
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed: Claire Roberts, gyda ‘Duet for Marimbas’ sef ‘Tide’ gydag ychwanegiad dau farimba.
Gofynnir i’r beirniad i ddewis chwe chystadleuydd ar gyfer y rownd derfynol, dau o bob Grŵp yn ddelfrydol, ond nid o angenrheidrwydd, sy’n gymwys i dderbyn y gwobrau arian parod. Yn ogystal â chystadleuwyr y rownd derfynol, gall y beirniad ddewis hyd at chwech o gyfansoddwyr eraill, i gynnwys eu gweithiau yn y dosbarth meistr a’r cyngerdd gyda’r nos, ond nid yw’r rhain yn gymwys i dderbyn gwobrau arian parod (ac eithrio gwobr Greenhalgh).
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn unig(ac wrth gwrs, unrhyw un sydd wedi mynd yn rhy hen i gystadlu), nad sy’n cael cystadlu yn y gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol. |