Return to the Language Selection Screen


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec  

Samplau o Rownd Derfynol Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 04/05:

Daw’r recordiadau proffesiynol yma o ddwy gryno ddisg – un ar gyfer pob digwyddiad.  Mae’r cryno ddisgiau yma ar gael i’w prynu am £5 ac unrhyw rodd y gallwch ei roi, trwy gysylltu ag Antony Griew.  Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, os gwelwch yn dda, pan ym gwneud ymholiad.  [Manylion cyswllt AG]

Defnyddiwch y chwaraewr isod i wrando ar samplau o’r gerddoriaeth.  Ar y dde, gwelwch wybodaeth am yr artist.

I ddadlwytho’r sampl, cliciwch y botwm ar y dde ar y ddolen ‘dadlwytho’, a dewiswch "Save As..." i’w safio ar eich cyfrifiadur.

This text will be replaced by the flash music player.

Claire Roberts (13), Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, ‘Movement’

(Trac 1)

“Movement for String Quartet”: Rhoddais yr enw hwn i’r gerddoriaeth oherwydd nad yw llawer o ddarnau ar gyfer Pedwarawd Llinynnol yn ddarnau unigol o gerddoriaeth, felly meddyliais y buaswn yn cyfansoddi rhywbeth a fyddai’n rhan o sgôr yn fwy.  Efallai eich bod wedi sylwi hefyd mor addas yw’r gair “Movement” mewn darn mor brysur. 

Mae’r darn hwn yn datgelu llawer amdanaf – swnllyd, prysur a phenwan.  Damwain bron oedd y brif thema, oherwydd roeddwn yn bwriadu cyfansoddi jig neu rîl a ysbrydolwyd gan ganeuon gwerin Celtaidd, ond wedi ychwanegu ambell acen, roeddwn yn credu ei fod yn swnio’n well mewn steil cyfoes a rhythmig.  Diolch i’r darganfyddiad hwn, fe wnes i arbrofi ar y gyfres yma o nodau trwy gydol y darn.

Matthew Wallace; Ysgol Gyfun Dyffryn Aman; 'Footie for Five'

(Trac 2)

Cariad at bêl-droed yn gyffredinol, a Dinas Abertawe yn enwedig, oedd fy ysbrydoliaeth pan ysgrifennais ‘Footie for Five’.  Bwriedir i basio’r alaw rhwng yr amrywiol offerynnau i adlewyrchu pasio’r bêl rhwng y chwaraewyr ar y cae.  Mae unrhyw gêm bêl-droed yn un o ddwy hanner, ond yn osodedig rhwng haneri’r cyfansoddiad hwn mae teyrnged i’r emosiwn, yr angerdd, y cynnwrf a’r gwladgarwch a brofir gennyf a’m cyd-gefnogwyr wrth i ni gefnogi ein tîm trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r tymor pêl-droed.

Robert Bettles; Ysgol Gyfun Emlyn; 'A Dream'

(Trac 3)

Sioc ac arswyd oedd y ddau emosiwn cyntaf i’m taro pan sylweddolais y buaswn yn cyfansoddi ar gyfer pumawd chwyth, ond trodd yr hyn a gychwynnodd yn sioc i fwynhad a phleser (a drodd i banic wrth i’r dyddiad cau agosáu).  Cychwynnodd y darn ei hun fel alaw sylfaenol a ysgrifennwyd ar y piano yn y modd Doriaidd, yn raddol ac yn eithaf gofalus, datblygodd i gyfrwng y pumawd chwyth.  Fe gychwynnodd y darn yn fwy tebyg i hunllef, ond rwy’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau cynnyrch yr hyn a fu’n debyg iawn i freuddwyd i mi.

Susie Goffin (17), Ysgol Uwchradd y F E, Caerfyrddin, Andantino

(Trac 4)

Dyma un o bâr o ddarnau i’r llinynnau, yn dynodi gwrthdaro a llonyddwch, yn ôl eu trefn.  Yn y symudiad hwn, anelais at ysgrifennu’n fynegol ac yn delynegol ar gyfer pedwarawd llinynnol, yn null symudiad araf.  Fy mhrif ddylanwadau oedd y cyfansoddwyr Ffrengig - Fauré, Ravel, a Debussy.

Mae’r symudiad cyfan yn seiliedig ar ddau syniad, yr ostinato yn y fiola yn cyfuno gyda dialog y ffidl.  Rhoddais sylw arbennig i ysgrifennu’r rhannau yn y darn, gan anelu at drafodaeth agos rhwng y pedwar perfformiwr. 

Ruth Morris; Ysgol Gyfun Penglais; 'The Bells of Rome'

(Trac 5)

Daeth fy ysbrydoliaeth ar gyfer fy narn o ddelweddau o Rufain – eglwysi addurnedig a gorymdeithiau urddasol a adlewyrchir yn y gerddoriaeth.  Roeddwn i eisiau dal hudoliaeth y ddinas ardderchog hon, yn enwedig yn yr ysgrifennu alawol ac wedi’r amser a’r cymorth a gefais gan John Metcalf yn ystod y gweithdy, sylweddolais botensial atmosfferig offerynnau’r pumawd chwyth.  Anelais at greu darn heriol ond dymunol i’r bobl sy’n ei chwarae, a rwy’n gobeithio y bydd mor ddymuno i wrando arno ac ydoedd i’w gyfansoddi.

Steffan Huw Watkins (17), Ysgol y Strade, Llanelli, A Suite Taste for Strings

(Trac 6)

Ceir tair adran i’r darn hwn, agoriad araf i gychwyn, yna adran yn y canol sy’n chwareus ac yn ddifyrrus, ac adran ysgogol a chadarn i gloi.  Cyfansoddwyd y darn ar gyfer pedwarawd llinynnol.  Cyn dechrau ysgrifennu, meddyliais am chwe nodyn, mewn unrhyw drefn, ac yna fe’u trefnais i batrwm addas a chofiadwy, a dyma’r hyn a glywir yn y pedwar bar agoriadol.  Rwyf yn newid ac yn efelychu’r patrwm hwn trwy’r tri symudiad (gydag ambell nodyn ychwanegol i greu effaith arbennig), gan ddod â’r agoriad yn ôl yn raddol i greu diweddglo cadarn.

Emma Downer; Ysgol y FE Maridunum; 'Woodland Dance'

(Trac 7)

Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu darn o gerddoriaeth gan brofiad a gefais yr haf diwethaf, pan welais i ddrama a berfformiwyd gan Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru, sef 'Whispers in the Woods', ar y testun y da a’r drwg, a bortreadwyd gan dylwyth teg.  O ganlyniad, penderfynais ysgrifennu cerddoriaeth achlysurol ar gyfer cynhyrchiad o stori dylwyth teg ddychmygol, fel rhan o’m portffolio Lefel A.  Wedi mynychu’r gweithdy a gynhaliwyd gan Celtaidd, clywais yr union seiniau yr oeddwn yn chwilio amdanynt ar gyfer fy narn.   

Mae i’r gerddoriaeth strwythur teiran, sef y gerddoriaeth coetir ysgafn yn fframio dawns fywiog y tylwyth teg.  Mae unawd gan y picolo yn gosod yr olygfa hudolus ac mae’n dychwelyd yn y barrau olaf.

John Aveson; Ysgol Gyfun Penglais; 'Order and Chaos'

(Trac 8)

Daeth y syniad ar gyfer y teitl imi o sylw a wnaed gan John Metcalf yn ystod fy nhiwtorial: ‘mae fel petai yna stryd brysur ac yn sydyn mae rhywun yn gollwng balŵn heliwm i fynd a’i bod yn hofran ac yn esgyn uwchlaw’r dyrfa’.  Roedd gen i ddau syniad pan gyrhaeddais y tiwtorial, y thema agoriadol ac yna’r alaw a glywir tua hanner ffordd drwodd.  Chwaraeir y thema, yn y cyfeiriad ‘cywir’ y tro cyntaf, ac yna’n wrthredol.  Yna, clywir y thema mewn patrymau rhythmig a chyfeiliannau gwahanol.  Mae’r ail thema’n seiliedig ar syniad a gefais ar gyfer darn unigol i’r piano.  Teimlaf fod gan y darn hwn alaw gadarn, felly fe wnes i ei chynnwys, gan fy mod i’n teimlo ei bod hi’n bwysig rhoi alaw foddhaol i’r gynulleidfa yn ogystal â cherddoriaeth mwy arloesol.

Rhaid nodi serch hynny, er fod y gerddoriaeth yn anhrefnus ar brydiau, nid yw’r anrhefn fyth yn afreolus.

Jack Westmore; Prifysgol Sussex; 'Piece'

(Trac 9)

Mae gennyf dipyn o ddiddordeb mewn rhythm a gwead.  Mae popeth rwy’n ei ysgrifennu’r diwrnodau yma mewn arwydd amser ysmala ac nid yw’r darn yma’n eithriad.  Y nodwedd rythmig stacato 7/4 oedd yr unig syniad oedd gen i yn wreiddiol, ond nid ydw i’n credu ei fod yn swnio mor rhyfedd â hynny, gyda’r trawsaceniad yn dileu’r disgwyliad am wythfed curiad.  Wrth imi ddatblygu’r syniad, cefais y teimlad y dylai’r darn agor gyda chyfres o gymalau mynych a ellir eu pentyrru, mewn modd ychydig yn lletchwith, oddi fewn i’r un arwydd amser.  Yn yr adran hon, roedd ansawdd ac effaith yn bwysicach na nodau unigol,er y gwnaeth alaw gyffredin amlygu, a ddefnyddiais yn nes ymlaen mewn gosodiadau gweadol gwahanol.

Jack Westmore (20), Prifysgol Sussex, Roha

(Trac 10)

Ceir yna ddinas sanctaidd yn Ethiopia o’r enw Lalibela, sy’n enwog am ei heglwysi maen hir.  Yr hyn yw eglwys maen hir yw eglwys a adeiladwyd, nid trwy osod briciau unigol un ar ben y llall, ond trwy gerfio’r adeilad cyfan allan o graig solet neu wyneb craig.  Yn Lalibela ceir yna 11 eglwys o’r fath.

Mae fy narn yn gwneud imi feddwl am ofodau agored, tirweddau creigiog a llychlyd, gyda lliwiau eang ond manwl a llinellau diffiniedig.  Roha oedd enw’r ddinas cyn i’r eglwysi yma gael eu hadeiladu yn Lalibela.  Yr hyn wnaeth fy nharo i, cyn i Roha ddatblygu’n Ddinas Sanctaidd ryfeddol Lalibela, fod yna awdurdod a phrydferthwch yn y creigiau a’r bryniau, yn aros i gael eu darganfod.  Ac felly, mae tudalen wag, neu gynfas neu sgôr, yn medru dal mwy o brydferthwch yn ei botensial nag unrhyw waith cywrain.

Nôl i’r Brig