Return to the Language Selection Screen


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec  

Newyddion Diweddaraf

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2006/07
Ensemble Ifanc Dyfed 2007

Gellir dibynnu ar Gyngor Celfyddydau Cymru!

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Ensemble Ifanc Dyfed

Rydym ni angen eich cymorth bob amser...

 

 

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Mae cystadleuaeth flynyddol Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn cyrraedd ei hanterth, wrth i gyfansoddiadau’r bobl ifanc lleol gael eu perfformio gan yr offerynwyr taro enwog, O Duo.

Mae’r noson yn argoeli i fod yn fwrlwm o gelfyddyd, gwreiddioldeb ac afiaith pur, wrth i O Duo gyflwyno’r amrywiaeth hwn o weithiau newydd a chyffroes, a fydd yn diweddu wrth enwi un o gystadleuwyr y cerddor ifanc yn Gerddor Ifanc Dyfed 2009.

Ffurfiwyd O Duo yn 2000, a rhyddhawyd eu Cryno Ddisg gyntaf yn 2007 ar label Sony BMG (8697027202) i gymeradwyaeth adolygwyr - ac fe wnaeth y Daily Telegraph ei henwebu’n Gryno Ddisg yr wythnos. Mae Owen Gunnell ac Oliver Cox wedi perfformio concerti gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Ffilharmonig Llundain a’r Philharmonia, maent wedi gweithio yn stiwdios Abbey Road a Sony, ar y teledu a sgoriau ffilmiau ac wedi darlledu ar BBC Radio 3, Classic FM a Theledu’r BBC. Yn 2003 a 2004 enillodd O Duo ‘Best Music Act of the Fringe’ yng Ngŵyl Caeredin, ac yn 2006 cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘artist ifanc’ y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.

'Celfyddyd Ryfeddol .... yn gorlifo gyda steil ac osgo’.    Daily Telegraph

Sylwer, os gweler yn dda, fod pob un o’r tair cystadleuaeth yn derbyn ceisiadau gan bobl ifanc mewn addysg llawn amser yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn hyn, hyd yn oed os ydynt yn byw tu allan i’r ardal.

Cliciwch YMA i ddadlwytho’r Adroddiad y Cadeirydd diweddaraf ar gyfer 2006

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2006/07

Mae’r Ysgrifennydd wedi derbyn nid llai na 82 o ffurflenni cais ar gyfer y gystadleuaeth hon, a gynhelir rhwng y 12fed a’r 14eg o Ebrill 2007.  O brofiad, bydd hyn yn golygu 50-55 o gyfansoddiadau mewn gwirionedd ac, o’u plith, fe fydd yn rhaid i’n beirniad Lynne Plowman, o’r Bont-faen, bigo hyd at 12 o gystadleuwyr ar gyfer y rownd derfynol.  Hefyd, mae Lynne wedi cytuno i fod yn Gyfansoddwr Preswyl yn 2007, pan fydd John Metcalf yn gadael y swydd, wedi i’w dair blynedd ddod i ben.  Mae John wedi bod yn gefn i ni dros y pum mlynedd diwethaf, ac efallai’r prif ddylanwad ar sut mae’r Cyfansoddwr Ifanc wedi datblygu’r rhaglen unigryw mae’n ei chynnig erbyn hyn i bobl ifanc gorllewin Cymru.  Mae ein dyled yn fawr iddo, a hyderwn y bydd yn cadw cysylltiad â ni ar lefel mwy anffurfiol.

Nôl i’r Brig 

Ensemble Ifanc Dyfed 2007

Bwriedir cynnal y gystadleuaeth ar Ddydd Sadwrn yr 31ain o Fawrth 2007, yn Ysgol Aberaeron, Ceredigion.  Cynhelir y gystadleuaeth yn Aberaeron am yr ail dro mewn tri, wrth i’r dref ddathlu ei 200 mlwyddiant, ac mae wedi gofyn inni fod yn rhan o’r dathliadau.  Gobeithiwn y bydd gennym ddigon o gystadleuwyr i’w gwneud hi’n werth cynnal y gystadleuaeth eleni, oherwydd y bu’n rhaid ei chanslo llynedd oherwydd diffyg cystadleuwyr.  Newidiwyd y rheolau i’w gwneud hi’n haws i grwpiau gystadlu ac i aros gyda’i gilydd wedi iddynt ffurfio.

Nôl i’r Brig

Gellir dibynnu ar Gyngor Celfyddydau Cymru!

Y mis hwn, rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cynnig o hyd at £16,000 ar y cyd (h.y: ar gyfer y 2 elusen), oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.  Yn amlwg, rydym ni’n eu plesio gan nad oes yna unrhyw amodau ychwanegol.

Bydd yr arian yn cael ei rannu oddeutu 2/3 i’r Cyfansoddwr Ifanc ac 1/3 i’r Cerddorion Ifanc, gan adlewyrchu costau blynyddol perthynol y ddwy elusen.

Nôl i’r Brig

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Mae rhaglen y Cyfansoddwr Ifanc yn mynd o nerth i nerth.  Llynedd, roeddem yn ffodus o dderbyn swm sylweddol o arian o dair ffynhonnell, sef Cyngor Celfyddydau Cymru (ar y cyd gyda Cerddorion Ifanc Dyfed), Sefydliad y Gymdeithas Hawl Perfformio a Chronfa Addysg Cyngor Sir Gâr.  Hefyd, cafwyd cyfraniadau sylweddol gan Sefydliad (Sefydliad Cymunedol Cymru) a Chyngor Sir Penfro.  Arweiniodd hyn oll at roi’r rhyddid inni ymchwilio i lwybrau newydd o weithgarwch ac fe’u galluogodd ni i weithredu syniadau newydd.   

Roedd nifer y cystadleuwyr ar gyfer cystadleuaeth 2005/06, yn dilyn y gweithdai cychwynnol ynghyd â gwaith John Metcalf mewn ysgolion, yn unol â’n cynllun Cyfansoddwr Preswyl, yn aruthrol.  Mynegodd pumdeg saith o bobl ifanc ddiddordeb mewn ysgrifennu cyfansoddiad ac fe wnaeth trideg ac wyth ohonynt gyflwyno darn yn y pen draw.  Mae hyn yn cymharu â ffigyrau o 18 a 13 yn 2004/05.

Mae dwy ysgol, sef Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli ac Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd, yn haeddu sylw arbennig, oherwydd i’w disgyblion gyflwyno 20 a 6 o gyfansoddiadau yn ôl eu trefn, yn llawer uwch na’r tri a oedd yn ofynnol gan ein cytundeb â nhw, fel rhan o’r cynllun Cyfansoddwr Preswyl.  Fe wnaeth llawer mwy o’r ysgolion hynny fynegi diddordeb mewn cystadlu, ond nid oedd ganddynt amser i wneud hynny.   

Roedd safon y cyfansoddi’n uwch na’r flwyddyn gynt hyd yn oed, a chafodd ein beirniad, y cyfansoddwr Peter Reynolds, drafferth wrth ddewis o’u plith.  Yn y pen draw, fe ddewisodd chwe chystadleuydd ar gyfer y rownd derfynol, ond pedwar ohonynt o’r grŵp oedran canol (Grŵp B: 16 i 18) ac un yn unig o bob un o’r grwpiau eraill.  Hefyd, dewisodd chwe chyfansoddiad ‘tra theilwng’ i’w cynnwys yn y dosbarth meistr a’r cyngerdd terfynol, dau o Grŵp A (o dan 16) a phedwar o Grŵp B.

Cynhaliwyd y rownd derfynol ar Ddydd Sadwrn, yr 22ain o Ebrill, yn Theatr Gwaun, Abergwaun.  Yn ystod y dydd, bu John Metcalf a’n Ensemble Preswyl, Pedwarawd Llinynnol Athena, yn gweithio ar y cyfansoddiadau gyda phob un o’r deuddeg cyfansoddwr yn eu tro.  Ar gyfer un cyfansoddiad, ymunodd y delynores Catrin Hughes, Pennaeth Cerdd yn Ysgol y Strade.  Roedd yn waith anodd iawn a,

wedi toriad byr yn unig, bu’n rhaid i’r perfformwyr roi cyngerdd o’r darnau; roeddent wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd ac wedi mwy na haeddu eu ffioedd. 

Yr enillwyr oedd:

Grŵp A: Claire Roberts, 13 oed, o Lanyfferi, gyda ‘Movement’ rhyfeddol o aeddfed a chymhleth;  

Grŵp B: Steffan Huw Watkins, 17, ac Eirlys Myfanwy Davies, 18, y ddau o ardal Llanelli, gyda 'A Suite Taste for Strings' a 'Tic-Toc' yn ôl eu trefn;

Grŵp C: Jack Westmore, 20, o Lanybydder ond yn astudio ym Mhrifysgol Sussex, am y 'Roha' trawiadol;

Gwobr Cynulleidfa Greenhalgh: Matthew Wallace, 16, o Rydaman, am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda 'The Low-down Hoedown';

Cyfansoddwr Ifanc 2006: Jack Westmore.

Hefyd, cafodd yr enillydd, Jack, fel enillydd Grŵp C llynedd, ei gomisiynu i ysgrifennu gwaith ar gyfer Cerddor Ifanc Dyfed 2005.  I’r Cyfansoddwr Ifanc fyddai’r comisiwn hwn yn cael ei roi fel arfer, ond bryd hynny ni theimlai Emma Downer y gallai ymgymryd â’r gwaith.  Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, mae Jack wedi cytuno trosglwyddo’r comisiwn i Emma, sydd mewn sefyllfa i’w dderbyn erbyn hyn.   

Yn y cylched sydd i ddod, ein Cyfansoddwr Preswyl fydd John Metcalf unwaith eto, tra mai ein Ensemble Preswyl fydd Pumawd Pres Alba o Glasgow.  Rydym yn ceisio cyfansoddwr nodedig o Ogledd Cymru fel Beirniad, a bydd yn cael ei ychwanegu os a phan fydd ef yn cytuno i weithio gyda ni. 

Mae’r Ymddiriedolwyr wedi cytuno ar rai newidiadau i’r rheolau a’r rhaglen: 

  • Bydd cystadleuwyr yn cael eu derbyn nid yn unig o blith trigolion Dyfed, ond hefyd pobl ifanc mewn addysg llawn amser yn ysgolion Dyfed.  Mae hyn yn caniatáu i bobl ifanc sy’n byw dros y ffin (ym Mhowys, er enghraifft), sy’n mynychu’r ysgol yn un o’r tair sir, a’r rhai hynny sy’n mynychu’r dair ysgol breifat yn yr ardal, sy’n cynnwys disgyblion o hirbell, i gystadlu;
  • Rydym yn cefnu ar y gwahaniaethu rhwng ‘cystadleuwyr y rownd derfynol’ a chyfansoddwyr ‘tra theilwng’.  Bydd gofyn i’n beirniad ddewis hyd at ddeuddeg o gystadleuwyr ar gyfer y rownd derfynol, a bydd y dewis o weithiau a fydd yn cael eu perfformio yn y cyngerdd yn cael eu dewis wedi’r dosbarth meistr, gan nodi fod gan chwaraewyr offerynnau pres gyfyngiadau ar gymaint mae’r wefus yn medru’i gymryd);
  • Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal dros dri diwrnod.  Ar brynhawn Iau a Gwener, byddwn yn cynnal y dosbarthiadau meistr, ac ar y nos Sadwrn bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal.  Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i’r ensemble i berffeithio eu perfformiadau a phenderfynu, gyda’r Cyfansoddwr Preswyl, ar y rhannau darluniadau ‘cynt a chwedyn’ i’w cynnwys gyda phob darn.   

Eleni, yn ychwanegol at y gweithdai cychwynnol (yn gynnar ym mis Hydref – gweler y calendr), bydd yr Ensemble yn rhoi gweithdai yn y tair ysgol arbennig yn yr ardal.  Yn ogystal, mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal ‘Cyfarfod Agored’ ar Hydref y 4ydd, gyda chyngerdd gan Bumawd Pres Alba i ddenu’r bobl i fynychu.  (Gweler y calendr unwaith eto).

Nôl i’r Brig

Ensemble Ifanc Dyfed 2006

Mae’n stori drist.  Bu’n rhaid inni rhoi’r gorau i’r gystadleuaeth, a drefnwyd i’w chynnal ar y 18fed o Fawrth, yn Ysgol Emlyn, Castellnewydd Emlyn, oherwydd diffyg cystadleuwyr.  Tri ensemble yn unig a ddychwelodd ffurflenni cais.  Roedd hyn yn gyferbyniad i’r ddwy flynedd gynt, pan dderbyniwyd tua phymtheg.   

Rydym ni wedi rhoi cryn dipyn o ystyriaeth i’r rhesymau pam, a daethom i’r casgliad fod y gystadleuaeth yn wynebu anawsterau nad sy’n berthnasol i’r ddau arall.  Yr anoddaf o’u plith yw fod bywyd ysgol mor gyfnewidiol fel ei bod hi’n anodd cynnal ensemble ymarferol fel y mae i gychwyn un.  Mae’n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd haws o ffurfio ensembles o bobl ifanc gyda galluoedd tebyg, ac i’w hymgynnull a’u cadw gyda’i gilydd.

Cyfarfu Pwyllgor Trefnu’r Cyfansoddwr Ifanc i ystyried y mater, gan gynnig argymhellion i’r Ymddiriedolwyr, a ddadleuwyd yn eu cyfarfod diwethaf, ar y 10fed o Fai.  Cytunwyd ar nifer o newidiadau i’r rheolau, ac yn eu plith:  

  • Bod y safle gwe hwn yn cynnwys ‘gwasanaeth trefnu ensemble’ i alluogi cerddorion ifanc i roi eu henwau a rhai manylion eraill ac i gael eu cyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth mewn ffyrdd priodol;
  • Bydd yna ddau gategori o ensemble, gyda a heb un perfformiwr sy’n oedolyn (dros 19 oed).  Bydd hyn yn gymorth yn enwedig wrth ddatrys y broblem fod llawer o gerddoriaeth siambr, yn cynnwys y piano, mae’r rhan hon yn llawer anoddach na’r offerynnau eraill;
  • Y wobr ar gyfer pob ensemble buddugol fydd diwrnod o ddosbarth meistr / gweithdy, gyda cherddorion nodedig o’u dewis nhw;
  • Bydd y gwobrau arian parod, a roddwyd yn flaenorol i’r ensembles buddugol, yn cael ei roi i’r ysgol neu’r ysgolion a fynychir gan y perfformwyr;  

Mae nifer o newidiadau eraill yn cael eu hystyried o hyd.   

Rydym yn falch iawn o ddatblygu’r gystadleuaeth hon, a rydym yn dymuno ei gweld yn parhau.  Rydym ni’n agored i syniadau eraill a fydd yn sicrhau ei hymarferoldeb bob blwyddyn, hyd y gellir rhagweld.  Petai unrhyw beth yn amlygu na chafodd ei ystyried, yn eich tyb chi, awgrymwch ef i Ian Barton, trefnydd a phrif ysgogydd y digwyddiad.   

Pan fydd yr holl newidiadau wedi cael eu cymeradwy, byddwch yn medru dadlwytho ffurflenni cais ar ffurf .PDF o’r safle hwn.

Yn anffodus, bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r Gystadleuaeth Ensemble Ifanc ym mis Mawrth 2006, oherwydd diffyg cystadleuwyr.  Mewn mannau eraill, byddwn yn trafod mesurau eraill yr ydym yn eu gweithredu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.  Os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae mewn ensemble, cliciwch YMA, os gwelwch yn dda, i lenwi ffurflen, lle gallwch ddod o hyd i gerddorion ifanc o’r un feddwl ac y gallwch ffurfio ensemble gyda nhw.

Nôl i’r Brig

Rydym ni angen eich cymorth bob amser...

Caiff ein dwy elusen eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn unig, a does yna fyth digon ohonom.  P’un ai eich bod eisiau bod yn Ymddiriedolwr a’i peidio, bydd unrhyw gymorth y gallwch ei roi yn cael ei dderbyn gyda diolch.  Cysylltwch ag unrhyw un o’r Ymddiriedolwyr presennol, ond yn enwedig Antony neu Dot Griew, i drafod y ffordd orau y gallwch weithio gyda ni.   

A gawn ni awgrymu dwy ffordd o’n cefnogi:  

  • Gwnewch www.everyclick.com yn dudalen flaen eich porwr Rhyngrwyd, a dewiswch Cerddorion Ifanc Dyfed fel eich elusen o ddewis.  Mae’r safle injan chwilota hwn yn rhoi hanner ei elw i elusennau, yn gymesur â’r nifer o ‘gyfraddau taro’ mae’n ei dderbyn o blaid pob un maent wedi eu cofrestru.  Os teimlwch fod y cyfleusterau’n wannach na Google (neu eich hoff injan chwilota), yna ewch i’r injan honno a thynnwch ei eicon o flaen y llinell reoli i far isaf y pennawd.  Yna, byddwch yn medru symud yn syth i’r safle hwnnw a chefnogi’r Cerddorion Ifanc ar yr un pryd;
  • Anfonwch eich cetris Inkjet gwag atom.  Gall Cyfansoddwr Ifanc Dyfed eu hanfon i ffwrdd am arian da (rydym wedi gwneud dros £100 o wneud hyn dros y flwyddyn ddiwethaf.)  Mae pob math arall, ar wahân i Epson, yn dderbyniol.   

Fel gyda’r cystadlaethau eraill, gallwch ddod o hyd i ffurflen gais Cyfansoddwr Ifanc Dyfed ar y safle hwn fel ffeil .PFD.

Nôl i’r Brig