Return to the Language Selection Screen


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec  

Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Hanes Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

Yn 2001 fe wnaeth Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed sefydlu Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed. O dan adain Celfyddydau Caerfyrddin fe ddatblygodd yn gystadleuaeth debyg i’r Cerddor Ifanc.

Yn amlwg, roedd y rowndiau ble’r oedd y gweithiau’n cael eu cyflwyno am y tro cyntaf yn anymarferol. Yn hytrach, beirniad– byddai’r cystadleuwyr yn cyflwyno cyfansoddiad i’w feirniadu. O blith y rhain, byddai beirniad yn dewis chwe chystadleuydd ar gyfer y rownd derfynol. Byddai’r rhain yn derbyn dosbarth meistr yn ystod y dydd, a pherfformiad cyhoeddus gyda’r nos, ac yn dilyn hynny byddai’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Roeddem yn rhannu’r cystadleuwyr i dri grŵp oedran, o dan 16 (TGAU yn gyffredinol), rhwng 16 a 18 (Lefel A), ac o 19 i 22 (myfyrwyr israddedig/a phrin yn ôl-raddedig).

Fe wnaethom ymrwymo pump o gerddorion i weithio gyda chystadleuwyr y rownd derfynol. Triawd Llinynnol, pianydd a soprano oedd y cyntaf. Byddai’n rhaid i gystadleuwyr a oedd yn cyfansoddi tu allan i’r grŵp hwn i ddod o hyd i’w cerddorion eu hunain. Ar gyfer y gystadleuaeth gyntaf, yn Ebrill 2002, glynodd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr at yr hyn a gynigwyd iddynt. Yr enillydd oedd Jayne Evans o Gei Newydd, Ceredigion, gyda darn gwych i bumawd clarinét, a hi ei hun oedd yn chwarae rhan y clarinét. Fodd bynnag, ac eithrio cystadleuwyr y rownd derfynol, roedd safon y cyfansoddiadau a ddaeth i law yn isel.

Yn 2003 fe wnaethom amnewid y ffliwt, y clarinét a’r basŵn am driawd llinynnol, ac roedd yr ymateb yn anhrefnus. O holl gystadleuwyr y rownd derfynol, pump a gyfansoddodd o fewn y grŵp a ymrwymwyd. Cyfansoddodd y gweddill ar gyfer cerddorfa linynnol a thimpani, ar gyfer pumawd pres, a phedwarawd sacsoffon (yr enillydd oedd Dan Laxton o Gaerfyrddin). Felly, bu’n rhaid i’r cyfansoddwyr yma ddod o hyd i’w perfformwyr eu hunain. Daeth y cyntaf o’r rhain â cherddorfa linynnol ei hysgol i lawr gyda hi ar gyfer yr achlysur.

Fodd bynnag, nid yw perfformwyr nad sy’n broffesiynol yn medru gwneud cyfiawnder â’r cyfansoddiadau, ac roedd y dosbarthiadau meistr yn dueddol o ganolbwyntio ar sut i berfformio’r gweithiau, yn hytrach na sut i buro’r cyfansoddi. Roedd y cyfansoddwyr, y perfformwyr a’r beirniad yn ystyried bod hyn yn anfoddhaol.

Penderfynwyd ailfeddwl ein dynesiad cyffredinol. Roedd un peth yn amlwg; ychydig iawn o gymorth oedd y Cyfansoddwyr Ifanc yn ei gael i gyfansoddi darnau gwerth chweil. Un o’r rhesymau dros hyn oedd nad oedd mwyafrif o Benaethiaid Cerdd mewn ysgolion yn gyfansoddwyr eu hunain. Felly, tra eu bod yn gwybod digon am theori cerddoriaeth i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau, nid oeddent yn medru cynnig digon o gymorth i gyflawni rhywbeth mwy ymdrechgar.

Yn ystod 2003/2004 fe wnaethom ad-drefnu’r rhaglen (ni chafwyd cystadleuaeth yn 2004). Roedd yn amlwg bod angen elfen addysgol o fewn ein rhaglen. Roeddem ni eisiau darparu’r elfen a oedd ar goll mewn ysgolion, ar gyfer y Penaethiaid Cerdd a’r disgyblion.

Gyda mân newidiadau bob blwyddyn, mae’r ffurf fel a ganlyn:

  • penodi Ensemble Preswyl, Cyfansoddwr Preswyl a Beirniad;

  • cyflwyniad cychwynnol ym mhob sir i gyflwyno’r disgyblion i gyfansoddi ar gyfer yr Ensemble Preswyl, a chaiff ei gynnal gan yr Ensemble Preswyl a’r Cyfansoddwr Preswyl;

  • cynllun Cyfansoddwr Preswyl’, ble’r ydym yn cynnig ein Cyfansoddwr Preswyl i ysgolion uwchradd (traean o’r rhai hynny yn Nyfed pob blwyddyn) am hanner diwrnod yr un;

  • Tiwtorialau unigol i bob cystadleuydd gan y Cyfansoddwr Preswyl;

  • Rownd derfynol ar ffurf debyg iawn i’r un cynt.

Penodir ein Cyfansoddwyr Preswyl am dair blynedd, ac mae’r ddau yn gyfansoddwyr Cymreig uchel – eu parch. Y cyntaf oedd John Metcalf o Lanbedr Pont Steffan, a fu’n Feirniad cyn hynny. Y cyfansoddwr preswyl presennol yw Lynne Plowman, o’r Bont-faen.

Mae’r Beirniaid a’r Ensembles Preswyl yn newid pob blwyddyn. Mae ein Beirniaid ers 2005 wedi cynnwys:

2005: Pwyll ap Sîon, Darlithydd mewn Cyfansoddi o Brifysgol Bangor;

2006: Peter Reynolds, cyfansoddwr enwog a leolir yng Nghaerdydd;

2007: Lynne Plowman, a ddaeth yn Gyfansoddwr Preswyl wedi hynny;

2008 Timothy Raymond, Pennaeth Astudiaethau Cyfansoddi, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru;

2009 Dr Lyn Davies, Pennaeth Astudiaethau Lleisiol ac Opera, CBCDC

Mae ein Hensembles Preswyl wedi cynnwys:

2004/05 Ensemble Chwyth Celtaidd, pumawd chwyth Cymreig yn cynnwys merched yn unig;

2005/06 Pedwarawd Llinynol Athena, perfformwyr blaenaf Cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru;

2006/07 Alba Brass, pumawd pres ifanc o Glasgow;

2007/08 Yr Electric Voice Theatre, grŵp lleisiol ac electronig arbrofol o Lundain;

2008/09 O Duo, deuawd taro, sydd erbyn hyn yn enwog ymhlith yr ensembles yma, maent wedi eu lleoli yn Llundain, ond mae ganddynt gysylltiadau Cymreig cryf.

Yn 2009/10 yr Ensemble Preswyl fydd Pedwarawd Sacsaffon Lunar.

Mae gofyn i’r cystadleuwyr i gyfyngu ar yr offerynnau maent yn cyfansoddi ar eu cyfer. Mae’n rhaid bod o leiaf un o’r offerynnau’n perthyn i’r Ensemble Preswyl. Fel arfer yr uchafswm yw chwechawd, ond eleni’r uchafswm yw triawd, ac yn 2007/08 roedd yn rhaid i’r cystadleuwyr i gyfansoddi ar gyfer un neu fwy o’r pedwar llais gyda, neu heb, gyfwng electronig. Does dim cyfyngiad ar genre cerddorol y cyfansoddiadau.

Mae’r cynllun hwn wedi gweithio’n dda iawn. Mae safon y gweithiau a gyflwynir yn uwch ac mae mwyafrif y darnau dipyn yn hirach nag oeddent o’r blaen. Mae’r cystadleuwyr yn cyfansoddi’n unol â’r rheolau (er bod un neu ddau’n gwyro bob amser!). Mae’r rhai hynny nad sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn beirniadaeth adeiladol gan y Beirniad am eu gweithiau.

Mae yna wobrau arian parod i enillydd pob grŵp, ar gyfer yr enillydd cyffredinol a’r ffefryn a ddewisir gan gynulleidfa’r cyngerdd. Fodd bynnag, yn amlwg y wobr bennaf yw’r siawns i bob un o gystadleuwyr y rownd derfynol i glywed eu gweithiau’n cael eu perfformio’n broffesiynol, a’r posibilrwydd bydd y cyfansoddiad yn cael ei berfformio ar achlysuron yn y dyfodol. Mae pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn recordiad o’r digwyddiad.

Erbyn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn comisiynu enillydd y Cyfansoddwr Ifanc i gyfansoddi darn ar gyfer enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc Dyfed yr un flwyddyn. Caiff y darn hwn ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym mis Mehefin y flwyddyn ganlynol, ble mae’r Cerddor Ifanc yn cael cyfle i berfformio mewn cyngerdd.

Nôl i’r Brig