|
Mae sawl ffordd y gallwch gystadlu yng nghystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed.
- Os dewch chi i un o weithdai Hydref, cewch ffurflen gais;
- Os oes gennych Ddarllenydd Adobe Acrobat [cliciwch yma i ddadlwytho’r Darllenydd os oes angen mae am ddim, gallwch ddadlwytho ac argraffu’r ffurflen gais trwy glicio yma;
- Cysylltwch â’r Weinyddwraig, Cathy Morris, trwy ffonio 029 2019 0176 neu e-bostio morris.c@ntlbusiness.com gyda’ch enw a’ch cyfeiriad, ac fe fydd hi’n anfon copi i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni eleni yw’r
Dydd Gwener 6ed o Dachwedd
Mae’r ffurflen yn cofrestru eich bwriad i gyfansoddi gwaith. Bydd yn rhoi hawl ichi wrth diwtorial unigol ar ddarn sydd ar waith gyda ein Cyfansoddwr Preswyl Lynne Plowman. Pan fyddwch yn ei anfon i mewn, byddwch yn derbyn manylion pellach am y gystadleuaeth, yn cynnwys canllawiau ar yr hyn sy’n gwneud cyfansoddiad da a sut i gyflwyno eich sgôr. Hefyd, byddwch yn derbyn ail ffurflen a ddylid ei hamgáu gyda’ch darn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwaith yw Dydd Gwener 12fed o Chwefror 2010. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei dderbyn wedi’r dyddiad hwn, oni bai eich bod wedi trefnu gyda’r Ysgrifennydd o flaen llaw.
Cymhwyster a Rheolau
Rhaid i chi fod:
- llai na 23 oed ar Fawrth y 1af 2010;
- naill ai: yn Breswylydd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro;
- neu: gyda chyfeiriad cartref yn un o’r siroedd yma;
- neu: mewn addysg llawn amser mewn ysgol yn un o’r siroedd yma;
- Ni ddylai eich darn bara’n fwy na deng munud.
Darllenwch y rheolau a ddadlwythwch yn ofalus, os gwelwch yn dda. Maent yn fwy manwl na’r rhai uchod ac maent yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ychwanegol.
Pethau i’w lawrlwytho
Ffurflenni Cais - Bwriad i Gyflwyno Cyfansoddiad - (Microsoft Word): Lawrlwythwch
yma;
Ffurflenni Cais - Cyflwyno Cyfansoddiad - (Microsoft Word): Lawrlwythwch yma;
Cyflwyniad a Rheoliadau (Acrobat): Lawrlwythwch yma;
Darllenydd Adobe Acrobat: Cliciwch yma
|