Return to the Language Selection Screen


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec  

Deunydd ac Adnoddau Addysgol

GWEITHDAI CYFANSODDWR IFANC DYFED 2006
I’w rhoddi gan Bumawd Pres Alba a John Metcalf
Dydd Llun, yr 2il o Hydref:
Hedfan i Gaerdydd (gadael 18:55; cyrraedd 20:10); Casglu’r bws mini; gyrru i Greenhill, Llangynnwr (cyrraedd tua 21:30)
Dydd Mawrth, y 3ydd o Hydref:
10:30 i 16:00 sesiwn recordio ar gyfer DVD (Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Llanelli) – i’w gadarnhau.
20:00 i 22:00 ymarfer y dilyniant o weithdai i ysgolion (yn Greenhill; Alba, John ac Emyr yn cyfranogi)
Dydd Mercher, y 4ydd o Hydref:
10:00 - 11:30 gweithdy ysgolion Sir Gâr: Neuadd y Glowyr, Pontyberem
13:30 - 14:45 gweithdy ysgol arbennig: Ysgol Heol Goffa, Llanelli
19:30 - 21:30 Cyngerdd yng Nghyfarfod Agored Blynyddol yr Ymddiriedolaeth (tua awr o gerddoriaeth mewn dau hanner, gyda chyflwyno’r cyfrifon ac adroddiad y cadeirydd yn ystod yr egwyl) (lleoliad i’w drefnu). 
Dydd Iau, y 5ed o Hydref:
10:00 - 11:30 gweithdy ysgolion Ceredigion: Ysgol Uwchradd Aberaeron
13:00 - 15:00 gweithdy ysgol arbennig: Ysgol Rhydygors, Caerfyrddin
Dydd Gwener, y 6ed o Hydref:
10:00 - 11:30 gweithdy ysgolion Sir Benfro: Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd
13:00 - 14:45 gweithdy ysgol arbennig: Ysgol Portfield, Hwlffordd
Dydd Sadwrn, y 7fed o Hydref:
Hedfan i Glasgow (gadael: 10:35; cyrraedd. 11:50)
Rhaglen a awgrymwyd ar gyfer Gweithdai Ysgolion 2006
(i’w addasu fel a gytunwyd gan Alba, John ac Emyr Wynne Jones)
Pumawd Pres Alba yn perfformio Exsultet gan James Macmillan 5 mun
Cyflwyno rhaglen a chyfranogwyr y Cyfansoddwr Ifanc (Emyr) 7 mun
Y Trymped (Bede Williams a Caroline Munro) 12 mun
Y Corn Ffrengig (Craig MacDonald) 7 mun
Pumawd Pres Alba yn perfformio Masque Arias (Michael Nyman) 8 mun
Cyfansoddi i Bumawd Pres (John Metcalf) 10 mun
Y Tiwba (Jonathan Gawn) 7 mun
Y Trombôn (i’w gadarnhau) 7 mun
Sesiwn cwestiwn ac ateb (y gynulleidfa, perfformwyr a’r cyfansoddwr) 10 mun
Pumawd Pres Alba yn perfformio Classic Images, 2il symudiad (Philip Wilby) 5 mun
Gair i gloi a gwahoddiad i gystadlu (Emyr) 5 mun
Dosbarthu llyfrynnau a ffurflenni cais 5 mun
Cyfanswm Amser:
88 mun
Rhaglen o Weithdai ar gyfer Ysgolion Arbennig
(i’w chadarnhau gan yr ysgolion arbennig)
Ysgolion Heol Goffa a Portfield (i blant rhwng 5 – 19 oed gydag anawsterau dysgu difrifol a dwys - tua 75 o ddisgyblion ar y gofrestr bob blwyddyn)

Tri sesiwn 20/25 munud gyda phlant o lefelau cynyddol o ran oedran a gallu - yn  Heol Goffa, rhwng 6 a 10 o ddisgyblion fesul sesiwn; yn Portfield, tua 20 o ddisgyblion fesul sesiwn.  

Bydd y sesiynau mor anffurfiol ag sy’n bosib, gydag Alba yn perfformio ac yn symud ymhlith y plant, a fwriadwyd i’w hymrwymo gymaint ag sy’n bosib.
Ysgol Rhydygors (ar gyfer 54 o blant gyda phroblemau Emosiynol ac Ymddygiadol, rhwng 8 – 16 oed)

Un sesiwn ar gyfer 40 o ddisgyblion.  Cyn y gweithdy, byddant yn cael gwersi i’w paratoi ar hanes cerddoriaeth, a bydd grŵp bach yn gweithio ar gyfansoddiad, gan ddefnyddio nodiant graffigol, a fydd yn cael ei anfon i Bumawd Pres Alba rywbryd cyn y diwrnod.

Yn y gweithdy, bydd Alba yn rhoi llinell amser darluniadol o hanes cerddoriaeth.  Bydd ‘y presennol’ yn cael ei ddarlunio gan berfformiad o gyfansoddiad disgyblion Rhydygors.