Return to the Language Selection Screen


Croesawir rhoddion bob amser.  Dadlwythwch ac argraffwch ein ffurflen Rhoddion a Chymorth Rhodd a’i hanfon, gyda’ch siec  
"Eisiau chwarae mewn ensemble?"
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth...

Dyddiadau a Lleoliadau

Cyfansoddwr Ifanc Dyfed

 

 

 

Mae cystadleuaeth flynyddol Cyfansoddwr Ifanc Dyfed yn cyrraedd ei hanterth, wrth i gyfansoddiadau’r bobl ifanc lleol gael eu perfformio gan yr offerynwyr taro enwog, O Duo.

Mae’r noson yn argoeli i fod yn fwrlwm o gelfyddyd, gwreiddioldeb ac afiaith pur, wrth i O Duo gyflwyno’r amrywiaeth hwn o weithiau newydd a chyffroes, a fydd yn diweddu wrth enwi un o gystadleuwyr y cerddor ifanc yn Gerddor Ifanc Dyfed 2009.

Ffurfiwyd O Duo yn 2000, a rhyddhawyd eu Cryno Ddisg gyntaf yn 2007 ar label Sony BMG (8697027202) i gymeradwyaeth adolygwyr - ac fe wnaeth y Daily Telegraph ei henwebu’n Gryno Ddisg yr wythnos. Mae Owen Gunnell ac Oliver Cox wedi perfformio concerti gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Ffilharmonig Llundain a’r Philharmonia, maent wedi gweithio yn stiwdios Abbey Road a Sony, ar y teledu a sgoriau ffilmiau ac wedi darlledu ar BBC Radio 3, Classic FM a Theledu’r BBC. Yn 2003 a 2004 enillodd O Duo ‘Best Music Act of the Fringe’ yng Ngŵyl Caeredin, ac yn 2006 cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘artist ifanc’ y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.

'Celfyddyd Ryfeddol .... yn gorlifo gyda steil ac osgo’.    The Daily Telegraph