Pumawd Pres Alba Ensemble Preswyl 2006/07
Mae Alba yn Bumawd Pres sefydledig, a leolir yn Glasgow. Cyfarfu’r pum aelod tra’n astudio yn Academi Cerdd a Drama Brenhinol yr Alban, yn Glasgow, ac mae bob un ohonynt yn gerddorion sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain ac yn addysgwyr yn yr Alban. Fel aelodau unigol o’r grwˆp, maent wedi perfformio gyda Cherddorfa Philharmonig Llundain, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Opera yr Alban, Cerddorfa Cyngerdd yr Alban, Cerddorfa Ulster, Ensemble Paragon, y ‘Brass Company’, y ‘Golden Section’ a Cherddorfa Jas Genedlaethol yr Alban.
Fel grwˆp, mae Alba yn arbenigo mewn prosiectau addysgol ond mae ganddynt amserlen brysur o ddatganiadau hefyd. Maent wedi perfformio’n helaeth ledled yr Alban ac maent yn aelodau o gynllun mawreddog Yehudi Menuhin, sef Live Music Now!. Maent wedi perfformio yn Sbaen, lle gwnaethant ennill Cystadleuaeth Cerddoriaeth Siambr Genedlaethol Arcena yn 2004. Gwêl Alba eu cyfnod fel ensemble preswyl Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2006-07 fel llwybr cyffroes i archwilio’u cyfrifoldeb o sefydlu rhaglen newydd.
Craig MacDonald Corn Ffrengig
Daw Craig MacDonald o Elgin. Dechreuodd chwarae’r corn tenor pan oedd yn 10 oed, ac ymunodd â’r band pres lleol, lle darganfu ei gariad at chwarae offerynnau pres. Symudodd i’r corn Ffrengig pan oedd yn 14 oed, ac erbyn hyn mae Craig yn dilyn gyrfa yn astudio gyda David Flack yn yr RSAMD. Yn y gorffennol, Craig oedd yn chwarae’r prif gorn gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Alban ac eleni, cyrhaeddodd rownd derfynol clyweliadau Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r gwobrau a enillwyd ganddo’n cynnwys gwobr gyntaf yn y ‘Scottish Horn Jamboree’. Roedd yn falch iawn eleni o gael ymuno â Phumawd Pres Alba.
Jonathan Gawn - Tiwba
Symudodd Jonathan o Felfast i Glasgow yn 2003, i’r RSAMD i astudio ar gyfer ei ôl-radd. Ers dod i’r Alban, mae wedi mwynhau llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau ac ysgoloriaethau, daeth yn ail yng Ngwobr y ‘Governor's Brass Recital’ fawreddog yn yr RSAMD ddwy waith, mae wedi derbyn yr ‘EMI Music Sound Foundation Award’, Gwobr Ymddiriedolaeth Gerddorol Iarlles Munster, Gwobr Clwb Celfyddydau Ulster ac Ysgoloriaeth Bres Guinness. Fel cerddor ar ei liwt ei hun, mae Jonathan wedi gweithio gyda’r mwyafrif o gerddorfeydd proffesiynol yn yr Alban ac Iwerddon, yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Cyngerdd yr Alban, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Ulster. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb mewn addysg cerddoriaeth ac mae’n Hyfforddwr Pres gwadd yn Ysgol Wellington, Aeron.
Dávur Juul Magnussen - Trombôn
Ganwyd Dávur Juul Magnussen ar Ynysoedd y Ffaröe 20 mlynedd yn ôl, ac mae newydd symud i Glasgow, i astudio’r trombôn yn yr RSAMD. Mae wedi chwarae’r trombôn ers ei fod yn 12 oed, o dan hyfforddiant y Cymro Kenneth Jones. Ei fwriad oedd chwarae’r sacsoffon, ond credai mai offeryn pres oedd hwn ac felly, fe wnaeth gais i’r adran anghywir yn ysgol gerdd Ffaröe. Roedd yn difaru’r camgymeriad hwn am bythefnos, ond ers hynny nid yw wedi edrych yn ôl.
Fel Prydain, mae gan Ynysoedd y Ffaröe lawer o fandiau pres. Dyma lle mae’r mwyafrif o chwaraewyr offerynnau pres Ffaroaidd yn cychwyn ar eu gyrfaoedd, ac nid yw Dávur yn eithriad. Dechreuodd ar ei yrfa gyda Band Pres Ieuenctid Tórshavn a, hyd nawr, mae wedi chwarae gyda phob band pres Ffaroaidd.
Hefyd, mae wedi perfformio gyda cherddorfa siambr broffesiynol Ffaroaidd o’r enw “Aldubáran”, a hefyd mae’n chwarae gyda’r Gerddorfa Symffoni Ffaroaidd. Yn ogystal, mae’n ceisio dod o hyd i amser i chwarae cymaint o gerddoriaeth jas, pop a roc ag sy’n bosib. Hefyd, mae Dávur wedi cyfranogi mewn nifer o gystadlaethau yn Nenmarc.
Enillodd fedal aur a’r wobr dawn yng nghystadleuaeth gerddorol “Berlingske” yn 2003 ac yn gynharach eleni, roedd yn un o bedwar a gyrhaeddodd rownd derfynol y “Spil for Livet”, sef cystadleuaeth gerddorol sy’n cael ei darlledu ar y teledu, yn steil cerddor ifanc y flwyddyn y BBC.
Yn y rownd derfynol hon, perfformiodd gonsertino Ferdinand David i’r trombôn gyda’r Gerddorfa Radio Danaidd.
Yn 2004, pasiodd ei arholiad LRSM, gan Fwrdd Cyswllt yr Ysgolion Cerdd Brenhinol, gyda chlod. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at y daith yng Nghymru.
Caroline Munro - Trymped
Mae Caroline yn hanu o Orllewin Lleuddiniawn, a dechreuodd chwarae trwy’r gymuned bandiau pres gyfoethog yn yr ardal. Tra bu yn yr ysgol, enillodd nifer o wobrau unigol ac fe wnaeth ymroi llawer o’i hamser i chwarae gyda band Ysgolion Gorllewin Lleuddiniawn a’r NYBBS fel y prif gorned. Pan oedd yn 17 oed, newidiodd i’r trymped, a bu’n llwyddiannus pan gafodd gyfweliad ar gyfer cwrs BMus yn yr RSAMD. Erbyn hyn, mae Caroline ar ei phedwaredd flwyddyn yn yr Academi, yn astudio gyda Nigel Boddice MBE, John Gracie a Peter Franks. Mae’n perfformio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Opera yr Alban a chyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban, yn ogystal â chyda nifer o fudiadau amaturaidd ledled yr Alban. Hefyd, yn ddiweddar fe wnaeth Caroline ymgymryd â swydd yng Nghampbeltown, sy’n ymwneud â hyfforddi adran bres iau yr ardal yn ystod ei hymweliadau misol.
Bede Williams - Trymped
Ym mis Medi 2003, derbyniodd y gwˆr o Seland Newydd, Bede Williams, Ysgoloriaeth Ryngwladol Bwrdd Cyswllt, i astudio’r trymped ac arwain yn Academi Cerdd a Drama Frenhinol yr Alban. Mae’n gerddor amryddawn iawn ac mae Bede wedi perfformio ar draws Awstralasia, Asia, UDA, Ewrop a’r DU, ym mhopeth o fandiau pync-roc i gerddorfeydd symffoni proffesiynol. Mae ei ddiddordeb a’i astudiaethau mewn cerddoriaeth gyfoes wedi’i arwain i gomisiynu nifer o weithiau i’r trymped; yn ddiweddar, rhoddodd berfformiad cyntaf ‘Paoro’ gan Ross Harris, a recordiodd yn ogystal ar gyfer Radio New Zealand. Yn ddiweddar, trodd ei sylw at gyfansoddi, derbyniodd Bede gomisiwn gan Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, i gyfansoddi pumawd pres yn seiliedig ar eu casgliadau. O Chwefror i Fai 2006, ymgymerodd â thaith gyfnewid yn Sefydliad y Celfyddydau yng Nghalifornia, yn archwilio arferion sain arbrofol a chyfansoddi electroacwstig.
Nôl i’r Brig